Cynghrair Cambrian Tyres – dechrau araf i 2022

Beth ddigwyddodd yn 6 wythnos gyntaf y tymor?

Mererid
gan Mererid

Daeth y glaw mawr ddydd Sadwrn y 12fed o Chwefror a nifer o gemau’r gynghrair i stop.

Gêm gyfartal oedd rhwng Tregaron Turfs a Corris United – un gôl yr un, gyda’r Rhys Butch yn sgorio’r gôl i Dregaron.

5ed o Chwefror 2022

Y dydd Sadwrn blaenorol, roedd 3 gêm: –

  • Prifysgol Aber Reserves 1 – Llanilar 4
  • Bont 10 – Aberdyfi 0
  • Borth 8 – Tregaron Turfs 0

Diwrnod yn llawn o goliau, ac fel nifer o’r timau eraill, mae Borth wedi cael graffiti ar yr eisteddle sawl gwaith

Difrod i eisteddle Tîm Pêl-droed Borth

29 o Ionawr 2022 – diwrnod gemau cwpan

Grŵp 1

Aberdyfi yn curo Tregaron Turfs o 3 -1 a hynny ar eu cae cartref.

Corris yn curo tîm Prifysgol Aberystwyth o 2 gôl a hynny ar gae Blaendolau yn Aberystwyth

Bydd Aberdyfi yn wynebu Corris ar y 26ain o Chwefror ar gae Penrhos yn Aberdyfi.

Grŵp 2

  • CPD Llanilar yn curo Bont FC o 1-2 a hynny ar gae Parc Pantyfedwen
  • Padarn yn colli yn erbyn Borth o 0 i 2 ar barc Llety Gwyn

Fe fydd Bont yn wynebu tim Prifysgol Aberystwyth (2il dim) ar y 26ain o Chwefror.

Wedi cael ei chanslo, bydd CPD Llanilar hefyd yn wynebu Padarn ar y 26ain o Chwefror, yn ogystal â Tregaron Turfs yn wynebu Borth ar gaeau’r ysgol yn Nhregaron.

Clwb Pêl-droed Llanilar

22ain o Ionawr 2022

Doedd dim gemau ar y penwythnos yma oherwydd cyfyngiadau COVID.

15fed o Ionawr 2022

Chwaraewyd un gêm, gyda Padarn yn sgorio 7 gôl o’i gymharu â 3 gôl Tregaron Turfs.

Y sgorwyr i dîm Padarn oedd James Graham, Peter Bentham, Daniel Bentham, Christopher Carton, Liam Antwis, Ian Alexander Lee, a Tegid Gwyn Owen. Sgoriodd Glen Stewart 3 gôl i Dregaron.

Cefnogwyr yn gwylio Padarn ar gae Llety Gwyn

DIOLCH

Ni chwaraewyd unrhyw gemau eraill o fewn y gynghrair yn 2022 oherwydd cyfyngiadau COVID, felly mae tipyn o gemau i’w chwarae erbyn diwedd Mai. Cadwch lygad ar Bro Aber 360 am ddiweddariad am ganlyniadau’r tymor.

Diolch enfawr i’r holl noddwyr am sicrhau fod cynghreiriau fel hyn yn parhau, a diolch i swyddogion y Gynghrair am drefnu’r gemau.