Cyfarfodydd wyneb yn wyneb unwaith eto

CND Cymru yn cyfarfod ar y cyd a grwpiau eraill gan gynnwys CADNO a PAWB

gan Medi James

Roedd yn dda cael bod yn rhan o gyfarfod CND Cymru unwaith eto a gynhaliwyd yn Aberystwyth wythnos diwethaf.

Tristwch ein sefyllfa ni heddiw ydy bod neges y grwpiau yma yn dal mor fyw ac erioed. Mae grwpiau megis CND Cymru, CADNO  (grŵp atal unrhyw ddatblygiadau niwclear yn hen atomfa Trawsfynydd) a PAWB  (grŵp atal Wylfa B) yn dal i frwydro. Ceisio, mae’r grwpiau yma, i agor ein llygaid ni a’n gwleidyddion i’r peryglon  o arfau niwclear a datblygiadau  ym maes ynni niwclear ar hen safleoedd Trawsfynydd a’r Wylfa.

Bu peth o’r sgwrs ar i) ffyrdd amgen o greu ac ii) ymwrthod ag arfau niwclear..

Roedd yn dda cael cwmni dau ifanc sy’n byw yn Aber sef Dr Bethan Siân, ysgrifennydd cenedlaethol CND Cymru, oedd yn croesawu’r cyd-weithio yma sydd wedi dechrau rhwng y grwpiau ac undebau llafur gweithluoedd o fewn y maes ynni niwclear ac ynni adnewyddadwy. Mae gan bobl gyffredin  bryderon dilys, ofni bod yn darged i’r ‘gelyn’; pryder am iechyd tra’n byw gerllaw atomfa niwclear ac eraill yn syml yn cwestiynu ymarferoldeb ynni niwclear.

Un arall lleol ydy Dylan Lewis-Rowlands sy’n edrych ymlaen at groesawu  taith dathlu deugeinfed pen-blwydd Cymru Ddi-Niwclear yn y Senedd yng Nghaerdydd ar y 6ed o Ragfyr. Yn yr 80au roedd pob un Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi arwyddo lan ac yn falch o fod yn rhan o Gymru Ddi-Niwclear.

Onid yw hi’n amser i ni ofyn i’n cynghorwyr lleol sut mae maen nhw’n teimlo am y mater hwn a beth sydd wedi newid mewn deugain mlynedd a mwy?