Clocsio yn y sêt fawr!

Ysgol Sul Seion, Aberystwyth

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse

Mair a’r bugeiliaid yn dathlu mewn ffordd unigryw!

Tra’n dathlu genedigaeth yr Iesu yn Seion, Aberystwyth gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan gyfraniad unigryw Mair a’r bugeiliaid!  Am y tro cyntaf hyd y gwyddom ymunodd Mair â’r bugeiliaid i gyd glocsio i ddathlu genedigaeth Arglwydd y Ddawns!

Eisteddwch lawr a mwynhewch gyfraniad y tri sy’n aelodau o grŵp clocsio Seithennyn Bach yma’n Aber.

Dymuniadau gorau Gŵyl y geni i holl ddarllenwyr BroAber360.