Cicio’r Bar

Gwledd o adloniant gyda Llŷr Gwyn Lewis a Doreen Lewis

gan Sue jones davies

Cafwyd noson arall o adloniant ardderchog gyda Cicio’r Bar yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystywyth, nos Fercher, 9 Tachwedd.

Y beirdd lleol Eurig Salisbury a Hywel Griffiths oedd ein gwesteiwyr, a’r bardd gwadd oedd Llŷr Gwyn Lewis, a enillodd y gadair yn yr Eisteddfod eleni yn Nhregaron. Darllenodd rannau o’ i gerdd fuddugol a rhai o’i weithiau cynharach. Roedd yn bleser gwrando arno, gyda’r pynciau’n amrywio o hiwmor i bryderon bob dydd am gyflwr y byd.

Yr artist gwadd arall oedd y gantores Doreen Lewis … am berfformiwr bendigedig! Canodd hi rai o’r hen ffeffrynnau, yn ogystal â chân newydd sbon.

Rydym mor ffodus i gael talent fel hyn ar stepen y drws. Ac rydym yn ddiolchgar i Eurig a Hywel am drefnu’r digwyddiadau hyn.

Bydd yr un nesaf yn y flwyddyn newydd.

Felly cadwch olwg allan am wybodaeth!

1 sylw

eurig salisbury
eurig salisbury

Diolch yn fawr, Sue, am hyn! Hyfryd clywed ichi fwynhau’r noson.

Mae’r sylwadau wedi cau.