Cefn y Rhwyd gyda Tom Williams

Y ffan pêl-droed o Bow Street, sydd bellach yn athro yng Nghatar, oedd y gwestai yr wythnos hon

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Yn cadw cwmni i Rhodri Francis a finne ar Cefn y Rhwyd yr wythnos hon roedd Tom Williams, y dilynwr pêl-droed brwd sy’n hanu o Bow Street ond sydd bellach yn byw ac yn gweithio mas yng Nghatar. Gwrandewch ar y sioe er mwyn clywed ei farn am y paratoadau yn lleol, gobeithion Cymru, ffefrynnau’r gystadleuaeth a llawer mwy!