‘Ceffyl y Sêr’ – sioe wefreiddiol ar Faes Eisteddfod Tregaron

Seryddiaeth a cherddoriaeth yn cyfuno i greu sioe arloesol i blant o bob oed

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
Ceffyl y Sêr

Philomusica Aberystwyth

DSC00611

Carys Eleri

Bob diwrnod am 10 o’r gloch y bore tan ddydd Gwener, 5 Awst, mae cyfle i glywed perfformiad o ‘Ceffyl y Sêr’ yn Sfferen y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Y cyfansoddwr Gareth Glyn sy’n gyfrifol am y gerddoriaeth drawiadol a’r Athro Mererid Hopwood (Prifysgol Aberystwyth) yw awdur y geiriau hudolus. Yr actores amryddawn Carys Eleri sy’n llefaru’r stori, gan ddod â’r geiriau yn fyw i’r gynulleidfa werthfawrogol o bob oed.

Philomusica Aberystwyth, o dan arweiniad medrus Iwan Teifion Davies, sy’n cyflwyno’r gerddoriaeth a’r synau. Yn ychwanegol at hyn ceir animeiddiad celfydd o waith Rosie Miles a Rhys Bevan Jones ar sgrin sylweddol. Dyma berfformiad sy’n briodas berffaith rhwng y geiriau, y gerddoriaeth, y llefaru, y celf digidol a seryddiaeth.

Peidiwch â cholli’r cyfle i weld y perfformiad gwefreiddiol yma. Yn sicr, mae angen i’r sioe fynd ar daith o amgylch ysgolion cynradd ein gwlad i ennyn diddordeb mewn seryddiaeth a cherddoriaeth, gan gyfuno gwyddoniaeth â’r celfyddydau yn gelfydd ac yn gydnaws â’r cwricwlwm newydd.