Catrin yn cael budd o hyfforddiant Mudiad Meithrin

Mae Catrin wedi bod yn gweithio ym Meithrinfa Camau Bach ers dwy flynedd bellach.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Catrin Williams

Mae Catrin wedi bod yn gweithio ym Meithrinfa Camau Bach ers dwy flynedd bellach. Yn gyn-bennaeth ysgol gynradd, fe lwyddodd i ennill cymhwyster Lefel 3 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant trwy’r Mudiad Meithrin. Mae hi bellach yn astudio ar gyfer Lefel 5 trwy’r Mudiad.

Mae’r feithrinfa dydd yn darparu gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg i fabis a phlant hyd at oed ysgol – ac fel rheolwr tîm staff y feithrinfa mae Catrin wedi gallu manteisio ar hyfforddiant Academi i’w thîm yn ogystal ag iddi hi ei hun hefyd. Academi sy’n gyfrifol am holl anghenion hyfforddiant Mudiad Meithrin i staff y Cylchoedd Meithrin a’r Meithrinfeydd Dydd, yn ogystal ag i staff cenedlaethol y Mudiad. Mae’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu i gymuned y Mudiad Meithrin ar hyd a lled Cymru.

Meddai Catrin: “’Dw i wedi cael cyfle i ddatblygu syniadau a sgiliau newydd trwy dderbyn hyfforddiant gan Mudiad Meithrin, ac mi fyddwn i’n annog unrhyw un i gymryd y cyfle i fynd ar gwrs neu sesiwn hyfforddi trwy Academi.”  

Yn ôl Catrin, gweld y plant yn datblygu yw’r peth gorau am ei swydd. Mae’n mwynhau ei gwaith ac yn disgrifio ei rôl fel un “heriol, pleserus a gwerth chweil.”  

__

Camau Bach – Mae camau bach yn un o dair meithrinfa ddydd Mudiad Meithrin. Mae’n darparu gofal i fabis a phlant hyd at oed ysgol, yn ogystal â chlwb cyn ac ar ôl yr ysgol. Cynllun Meithrinfeydd Dydd – Mudiad Meithrin

Academi – Hyfforddiant arbenigol sy’n rhad ac am ddim i bawb sy’n rhan o gymuned Mudiad Meithrin, o Gylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin i Feithrinfeydd Dydd ar hyd a lled Cymru. Darparu hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr Academi – Mudiad Meithrin