Canu Carolau ar Stryd Fawr Aberystwyth

Hen Arferiad

gan Medi James
carolau

Carolwyr Stryd Fawr Aberystwyth

Ers blynyddoedd d’yn ni wedi arfer gweld criw ffyddlon o garolwyr amrywiol yn dod at ei gilydd i ganu carolau ar y Stryd Fawr yn Aberystwyth. Mae hyn wedi digwydd yn gynharach nag arfer eleni gyda chriw yn cael eu harwain gan Gethin a Glenda Roberts yn codi arian i brynu a chludo  generadur (generator) i Wcráin. Mae nifer o deuluoedd yn yr ardal wedi rhoi cartref i ffoaduriaid o Wcráin a dyma ffordd fach o roi cymorth pellach i bobl sy dan warchae mewn gaeaf creulon. Hyd yma, mewn dau sesiwn o ganu, mae £197 wedi ei gasglu a byddant wrthi eto dydd Mawrth 13eg am  2 o’r gloch tu allan i Savers. Croeso i unrhyw un ymuno am bum munud o ganu tymhorol neu’r awr gyfan os oes amser gennych.

Yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig 19 – 24 o Ragfyr bydd yr r’un criw yn canu ac yn casglu tuag at elusennau lleol. Croeso i bawb ymuno.