Busnesau yn “brwydro ymlaen” yn sgil y cyfyngiadau

Un busnes lleol yn “gwneud beth bynnag allwn ni ei wneud i gadw’r tîm i fynd”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Google

Bwyty Medina, Aberystwyth

Mae busnesau yng Nghymru yn parhau i “frwydro ymlaen” er gwaetha effaith y cyfyngiadau newydd dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Daw hyn wrth i bennaeth grŵp lletygarwch UKHospitality Cymru rybuddio bod angen rhagor o gymorth ariannol “ar frys” i fusnesau ar ôl cyfnod “trychinebus” yn ariannol.

O Ddydd San Steffan ymlaen, cafodd cyfyngiadau – fel y rheol grŵp o chwech – eu cyflwyno mewn lleoliadau lletygarwch, megis tafarndai, bwytai a gwestai, a bu’n rhaid i glybiau nos gau eu drysau am y tro.

Fe wnaethon nhw gyhoeddi y byddai cymorth o £120m ar gael i fusnesau yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd neu sydd wedi eu taro gan yr amrywiolyn Omicron.

Mae nifer o fusnesau lletygarwch yn disgyn i mewn i’r categori hwnnw ac wedi gorfod gwneud newidiadau brys i leihau’r effeithiau ariannol arnyn nhw.

‘Falch bod nhw ddim wedi dod cyn y Nadolig’

Roedd Medina Rees, perchennog bwyty Medina yn Aberystwyth, yn teimlo’u bod nhw wedi cadw eu pennau uwchben y dŵr er gwaetha’r cyfyngiadau.

“Dim ond y rheol o chwech yw’r unig beth sydd wedi effeithio ni a dweud y gwir,” meddai wrth golwg360.

“Heblaw hynny, rydyn ni wedi cadw systemau un ffordd mewn lle, a chadw ymbellhau cymdeithasol mewn lle, ac mae’r tîm i gyd yn gwisgo masgiau.

“Does dim lot wedi newid i ni oni bai ein bod ni’n methu â chymryd grwpiau o fwy na chwech.”

Ychwanegodd Medina: “Ro’n i’n falch bod nhw ddim wedi dod cyn y Nadolig.

“Roedd hi’n neis gweld pobol, yn enwedig teuluoedd, yn gallu cwrdd â’i gilydd heb i gynlluniau gael eu sbwylio.”

‘Brwydro ymlaen’

Wrth ystyried busnesau sydd wedi ei chael hi’n anodd yn ystod Covid, roedd Medina yn cyfri ei hun yn lwcus eu bod nhw ddim wedi cael eu heffeithio fel busnesau eraill.

“Rydyn ni’n ffodus bod ein hadeilad ni’n ddigon o faint, felly rydyn ni gallu gweithio o gwmpas pethau rhywfaint,” meddai.

“Oherwydd beth rydyn ni wedi mynd trwyddo yn ystod y pandemig, mae gyda ni lot o bethau eraill yma – mae’r siop gyda ni, mae gennyn ni wasanaeth takeaway ar-lein yn gwerthu prydiau parod a bocsys llysiau ac ati.

“Mae hyn i gyd yn anodd ei drefnu ond dyna beth sy’n cadw ni fynd. Rydyn ni’n trïo gwneud bach o bob dim, felly pan mae un peth yn mynd lawr, mae rhywbeth arall yn codi yn ei le.

“Brwydro ymlaen rydyn ni’n ei wneud a gwneud beth bynnag allwn ni ei wneud i gadw’r tîm i fynd.”