“Breichiau Ceredigion ar agor” i groesawu ffoaduriaid, medd arweinydd y cyngor sir

Mae o leiaf miliwn o bobol bellach wedi ffoi o Wcráin er mwyn osgoi’r rhyfel

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Y dorf ddaeth i gefnogi Wcráin ar Sgwâr Glyndŵr.Iestyn Hughes

“Mae breichiau Ceredigion a Chymru gyfan ar agor i groesawu unrhyw un sydd angen help,” yn ôl arweinydd y cyngor sir, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn.

Roedd hi’n gwneud y sylwadau ar ôl i bob un o gynghorau sir Cymru, gan gynnwys Ceredigion, gytuno mewn egwyddor i ddarparu lloches i ffoaduriaid pe baen nhw’n cyrraedd y wlad.

Erbyn bore dydd Iau (Mawrth 3), roedd o leiaf miliwn o bobol wedi ffoi o Wcráin er mwyn osgoi’r rhyfel.

‘Sefyllfa hon yn drychineb’

Roedd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yn ategu at hynny, ac yn dweud y byddai eu “breichiau ar agor” i groesawu ffoaduriaid.

“Mae pethau yn gwaethygu yno yn anffodus, ac mae pobol yn dal i ddenig o’r wlad,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r holl sefyllfa hon yn drychineb ac yn echrydus.

“Wrth feddwl ein bod ni’n gorfod wynebu’r ffasiwn sefyllfa ar dir Ewrop tri chwarter canrif ar ôl cyflafan arall – does neb eisiau gweld hynny’n digwydd eto.

“Mae breichiau Ceredigion a Chymru gyfan ar agor i groesawu unrhyw un sydd angen help.”

Dim manylion swyddogol

Does gan Lywodraeth Cymru ddim pŵer datganoledig dros fewnfudo, ac felly mae faint o bobol y mae modd i Gymru gynnig lloches iddyn nhw yn ddibynnol ar bolisi San Steffan.

Er hynny, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymrwymo i gynnig help llaw wrth groesawu unrhyw ffoaduriaid sy’n cyrraedd yma.

“Mae pawb ar draws llywodraeth leol yng Nghymru wedi dychryn wrth weld y dinistr sy’n cael ei achosi yn Wcráin,” meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

“Does dim cais am ailsefydlu wedi ei roi eto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae cynghorau yn brofiadol wrth helpu i ailsefydlu pobol o wledydd sydd wedi eu heffeithio gan ryfel, a bydden nhw’n gwneud eu gorau glas i gefnogi unrhyw ymdrechion o’r fath.”

Ar hyn o bryd, mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn caniatáu i unrhyw berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig i ddod ag aelodau teulu o Wcráin i’r wlad ar unwaith.

Mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn nodi lle nad yw aelodau o deulu yn y Deyrnas Unedig yn bodloni’r meini prawf – ond yn pasio gwiriadau diogelwch – y byddan nhw’n cael caniatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig y tu allan i’r rheolau am 12 mis.

Mae hi’n bosib i bobol o Wcráin sydd heb deulu yn y Deyrnas Unedig ddod yma drwy gael eu noddi gan unigolion, elusennau, busnesau, neu grwpiau cymunedol drwy Lwybr Nawdd Dyngarol, hefyd.