Apêl Nadolig i wireddu breuddwyd HAHAV

Gobeithio prynu adeilad cyn diwedd y flwyddyn

gan Deian Creunant

Alan Axford gydag un o’r gwirfoddolwyr Jackie Carroll

Mae’r weledigaeth o gael canolfan bwrpasol a fydd yn darparu cymorth ymarferol, gofal cymdeithasol a chwmnïaeth i bobl yng Ngheredigion sydd â salwch cronig sy’n cyfyngu ar fywyd, gam mawr yn agosach, diolch i waith diflino elusen leol.

Oddi ar ei sefydlu yn 2015, mae HAHAV yn cynnig cymorth i deuluoedd, gofalwyr a’r anwyliaid hynny sy’n dioddef, ac maent yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Gofal Lliniarol Hywel Dda ac yn ategu gwaith hollbwysig y Tîm hwnnw.

Darperir gwasanaethau’r elusen yn bennaf o Blas Antaron, cyn westy adnabyddus yn Aberystwyth, a chynigir yno amrywiaeth eang o weithgareddau i gleientiaid a gofalwyr, yn cynnwys cymorth Dementia, therapïau cyfannol, grŵp canu i rai ag afiechyd ar yr ysgyfaint, yn ogystal â gwasanaeth cwnsela a chymorth i rai sydd wedi cael profedigaeth.

Mae yna hefyd wasanaeth ymestyn cymunedol, gyda gwirfoddolwyr yn cynnig cefnogaeth i gleientiaid yn eu cartrefi, gan helpu gyda thasgau fel siopa neu fynd â chŵn am dro, ynghyd â threfnu gwibdeithiau cymdeithasol a chwmnïaeth.

Mae parhau i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn ddibynnol ar sicrhau pryniant Plas Antaron erbyn diwedd 2022 ac mae cyllid bron â bod yn ei le i alluogi i hyn ddigwydd. O’r targed cychwynnol o £600,000, mae angen £25,000 o hyd ac mae apêl Nadolig bellach wedi’i lansio.

Rydym yn apelio ar gefnogwyr i ystyried rhodd un tro i helpu gyda’r gwasanaeth hollbwysig hwn ac i’n helpu i gyrraedd y nod.

Dywedodd Dr Alan Axford, Cadeirydd HAHAV ac un o sefydlwyr gwreiddiol HAHAV:

“Mae cael canolfan ym Mhlas Antaron wedi bod yn hollbwysig i ddatblygu ein gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, ac er mwyn cyrraedd ein dyheadau ar gyfer HAHAV yn y dyfodol mae angen i ni adeiladu ar y llwyfan cadarn rydym wedi’i greu.

“Mae gennym ni gyfle nawr i brynu’r adeilad a chreu canolfan bwrpasol i gefnogi anghenion pobol ar draws Ceredigion. Mae cyllid wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth gyda’r nod o gwblhau’r pryniant erbyn 31 Rhagfyr 2022.

“Tra’n sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd i lawer o bobl, gofynnwn yn garedig i rai sy’n teimlo y gallant gyfrannu i ystyried cefnogi ein hapêl er mwyn sicrhau y gellir darparu gwasanaethau y mae mawr eu hangen yng Ngheredigion, nawr ac yn y dyfodol.”

Trefnwyd diwrnod casglu yn siop Tesco Aberystwyth ddydd Sadwrn a chafwyd ymateb gwych i’r apêl gyda £992.00 yn cael ei godi ond mae angen cyllid o hyd i sicrhau y gellir bwrw ymlaen â’r pryniant.

Os ydych yn teimlo y gallwch gyfrannu ewch i https://havav.enthuse.com/cf/plas-antaron-purchase-fundraiser

I gael gwybod mwy am HAHAV ewch i www.hahav.org.uk, e-bostiwch admin@hahav.org.uk neu ffoniwch 01970 611550.