Amgueddfa Ceredigion i chwarae rhan mewn prosiect rhyngwladol

Bydd y prosiect yn edrych ar gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Bydd Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth yn chwarae rhan allweddol ar ddiwedd prosiect newydd gwerth £1.63m.

Y cysylltiad cynharaf rhwng Cymru ac Iwerddon fydd testun prosiect peilot Portalis, sydd â’r bwriad o godi ymwybyddiaeth a chefnogi ymgysylltu cynaliadwy gan gymunedau a busnesau’r ddwy wlad.

Drwy hynny, bydd dau rwydwaith ‘twristiaeth a diwylliant drwy brofiad’ yn cael eu sefydlu ar y naill ochr i Fôr Iwerddon.

Bydd y canlyniadau’n cael eu harddangos yn Amgueddfa Ceredigion ac mewn amgueddfa arall yn ninas Port Láirge (Waterford) yn Iwerddon.

Ymchwil

Gan gychwyn ym mis Chwefror, bydd y prosiect peilot yn para 20 mis.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fydd cyfres o wahanol dechnegau archeolegol a thechnolegau digidol yn cael eu defnyddio.

Bydd Amgueddfa Ceredigion, sy’n eiddo i’r cyngor, yn arddangos rhai o’r canlyniadau hynny a’n cynnig profiad unigryw i ymwelwyr yn y broses.

“Mae’n bleser mawr gan Gyngor Sir Ceredigion i fod yn bartner ar y prosiect Portalis,” meddai Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet ar gyfer Porth Gofal, Cymorth Cynnar Canolfannau Lles a Diwylliant.

“Gwnaiff gynnig cyfle unigryw i Amgueddfa Ceredigion i archwilio bywydau ac amgylchedd rhai o’r bobl gynharaf i fyw ar hyd ein harfordiroedd yma yng Nghymru ac yn yr Iwerddon, treftadaeth a gaiff ei rhannu drwy gyfuniad o archaeoleg sy’n torri tir newydd ac arddangosfeydd o’r radd flaenaf.”

Gallwch ddarllen mwy am y prosiect ar wefan golwg360.