Allwch chi helpu Grŵp Aberystwyth Gwyrddach?

Croeso mawr i bawb ymuno a’r grŵp pwysig yma

gan Sue jones davies
Coed a mwy o goed.

Bydd Grŵp Aberystwyth Gwyrddach “GAG” yn cynnal cyfarfod agored ar ddydd Gwener y Rhagfyr 4ydd 2022 yn siambrau’r Cyngor Tref, Stryd y Popty, Aberystwyth am 7 yr hwyr.

Rydym yn erfyn i bawb sydd â diddordeb i ddod draw i gefnogi GAG. Gallwch ddarllen am eu gwaith diweddar yn ei cylchlythyr.

Mudiad sydd ddim yn gwneud elw yw’r Grŵp, gyda’r amcanion canlynol:

  • Hybu cadwraeth a rheolaeth mannau gwyrddion o fewn cyrraedd a choedydd ar strydoedd yn ac o amgylch Aberystwyth, yn fwynderau gwerthfawr i’r gymuned.
  • Cyrraedd ei amcanion drwy hybu a gweithredu arolygon, craffu ar geisiadau cynllunio a datblygiadau perthnasol eraill, trefnu grwpiau i weithio’n wirfoddol, casglu a rhannu gwybodaeth, cynhyrchu deunydd dehongli, codi arian, cynnig cynghorion a gwneud argymhellion, a chydlynu â mudiadau sy’n berchen ar neu sydd â chyfrifoldeb am fannau gwyrddion yr ardal.
  • Mae’n Grŵp yn anwleidyddol, ac yn osgoi gwleidydda Pleidiol. Ni fydd y Grŵp yn ceisio gorfodi ei argymhellion ar y gymuned leol. Yn bennaf, mudiad ymchwiliol ac un sy’n cynghori ydyw, ond os caiff gefnogaeth resymol gan y gymuned, gall gynrychioli’r amcanion hynny a ddatganwyd ganddo.

Yn ddiweddar, enillodd y Grŵp Wobr Werdd i’r Gymuned yng ngwobrau Menter Aberystwyth. Mae’r Grŵp hefyd wedi cynghori Cyngor Tref Aberystwyth ar ddatblygu Parc Gwenffrewi.

Byddai’n drueni gorfod ei ddirwyn y grwp i ben wedi’r cyfan mae wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd.

Yn y cyfarfod, fe fyddant yn edrych yn ôl ar gyflawniadau GAG dros yr 16 mlynedd diwethaf ac fe fydd sioe sleidiau o’r uchafbwyntiau.

Mae’r aelodau yn mynd yn hŷn ac mae angen recriwtio aelodau gweithredol ar frys er mwyn i GAG barhau â’i waith da. Mae croeso mawr i bobl newydd o bob oed. Maent yn grŵp cyfeillgar gyda brwdfrydedd yr un mor bwysig ag unrhyw arbenigedd posibl.