Ail agor Parc Gwenffrewi

Agor yn ffurfiol Parc Gwenffrewi Ffordd Y Gogledd Aberystwyth

gan Sue jones davies
IMG_02853

parc Gwenfrewi

Parc Gwenffrewi

sdr_vivi

Ar ddydd Sadwrn y 23ain o Orffennaf 2022, agorwyd Parc Gwenffrewi (ar Ffordd y Gogledd), yn swyddogol gan y Maer, y Cynghorydd Talat Chaudhri.

Caniatawyd i adnewyddu’r parc drwy grant gan Lywodraeth Cymru, a hynny drwy ymdrech gan Gyngor Tref Aberystwyth.

Mae’r parc yn cynnwys ardal goediog, darn o flodau gwyllt, gwelyau llysiau ar gyfer grwpiau cymunedol, yn ogystal â lawntiau a mannau eistedd.

Bydd y parc newydd yn gaffaeliad gwych i bobl Aberystwyth nawr ac am flynyddoedd i ddod.

Gwenffrewi wrth gwrs yw’r enw Cymraeg am Winifred’s – enw’r eglwys gatholig gyfagos, lle mae bwriad i’w adnewyddu yn fuan.