Aberystwyth yn cefnogi annibyniaeth a democratiaeth Wcráin

Torf dda mewn rali yn Aberystwyth i gefnogi pobl Wcráin

Siôn Jobbins
gan Siôn Jobbins
Y dorf ddaeth i gefnogi Wcráin ar Sgwâr Glyndŵr.Iestyn Hughes
Dr Jenny Mathers, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol AberystwythIestyn Hughes
Y dortIestyn Hughes
"Putin Out"Iestyn Hughes
Cefnogaeth â gwênGwenno Dafydd

Ar brynhawn braf ond oer ddydd Sul, 27 Chwefror, daeth torf dda o dros 100 o bobl ynghyd ar fyr rybudd ar Sgwâr Glyndŵr, Aberystwyth, i ddangos cefnogaeth i annibyniaeth a democratiaeth Wcráin.

Areithiau Grymus a Syniadau Ymarferol

Cafwyd araith rymus gan Faer Aberystwyth, y cynghorydd Alun Williams, a nododd y tebygrwydd rhwng Wcráin a Chymru a’r modd y mae gan y ddwy wlad ddwy iaith. Esboniodd sut roedd celwydd Putin wedi ceisio rhannu’r wlad a drysu’r gymuned ryngwladol. Fel Cymro, cydymdeimlodd â dyhead pobl Wcráin dros ryddid i’w gwlad a gweithio mewn byd sy’n cydweithio o fewn sefydliadau mwy. Roedd Dr Jenny Mathers, o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, hefyd yn un o’r ddau brif siaradwr. Mae Jenny’n arbenigwr ar wleidyddiaeth a diogelwch Rwsia ac yn siarad Rwsieg. Dangosodd sut y gall cefnogwyr Wcráin wneud cyfraniadau ymarferol drwy gyfrannu arian i elusenau dyngarol neu filwrol, darllen a rhannu corfforaethau newyddion gonest a dibynadwy, a chymryd rhan mewn digwyddiadau fel y rali fyr rybudd Aberystwyth sy’n dangos cefnogaeth i bobl Wcráin. Galwodd ar i bobl lobio eu haelodau o Senedd Cymru a San Steffan i wneud mwy i helpu Wcráin. Cafwyd hefyd eiriau o gefnogaeth gan Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru, ac Adam Price AS, arweinydd Plaid Cymru, a fu allan yn Wcráin wythnos yn ôl.

Cefnogaeth gan Mick Antoniw AS ac Adam Price AS

Darllenwyd geiriau Mick gan Meic Birtwistle o’r Blaid Lafur. Mae Mick o dras Wcrainaidd, yn siarad yr iaith ac â theulu a thylwyth yn y wlad sy’n ymladd yn erbyn Rwsia heddiw. Yn ei araith, rhestrodd Mick y twyll a’r celwydd a ddefnyddiwyd gan Putin i bardduo cymdeithas Wcráin. Mae Putin a’i ffrindiau yn y Gorllewin wedi ceisio twyll-lunio Wcráin fel gwlad wrth-Semitig, hiliol, wrth-Rwsiaidd a rhyfelgar. Fel y nododd Meic, ar ran Mick, mae Arlywydd Wcráin, Zelensky, yn Iddew sydd â Rwsieg fel iaith gyntaf ac sydd wedi dysgu Wcraineg yn ddiweddar. Yn araith fer Adam Price, a ddarllenwyd gan Siôn Jobbins, a oedd hefyd yn gyfrifol am drefnu’r rali, nododd Adam y tebygrwydd rhwng Cymru ac Wcráin. Dywedodd Adam, “Eu brwydr nhw nawr – am annibyniaeth, am ddemocratiaeth am yr hawl i fyw a byw yn rhydd – ydy ein brwydr ni”. Gorffennwyd y rali gyda’r dorf yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’.