Roedd dydd Mercher 7 Gorffennaf yn ddiwrnod pwysig iawn i ni yn Ysgol Llanilar wrth i ni dderbyn statws Gwobr Aur y Siarter Iaith. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn yr ysgol yn sgil derbyn y wobr hon gan ei bod yn adlewyrchu’r ymdrech barhaus a wneir gan holl gymuned yr ysgol – y disgyblion, y staff, y llywodraethwyr a’r rhieni, yn ogystal â’r gymuned ehangach – i ddathlu ein Cymreictod ac i ddefnyddio’r Gymraeg.
Er gwaethaf heriau’r flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethon ni barhau i hybu Cymreictod yng nghymuned yr ysgol. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o ddiwrnodiau pwysig fel Diwrnod Owain Glyndŵr, Diwrnod Shwmae Su’mae a Dydd Miwsig Cymru, fe wnaeth y Cewri (y criw o ddisgyblion sy’n arwain gwaith y Siarter, sef Cennydd Davies, Bryn Williams, Lily Waters a Gwenllian Rhys) gynnal cyfarfodydd dros Teams. Fe wnaethon nhw gydweithio gyda Lowri Steffan (ein llywodraethwr â chyfrifoldeb am ddatblygu gwaith y Siarter) er mwyn creu Helfa Basg yn y pentref, a pharhau i drefnu gweithgarwch er mwyn i’r disgyblion ddysgu a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwch gadw llygad ar weithgarwch yr ysgol ar ein tudalen Twitter @YsgolLlanilar.
Diweddglo perffaith i flwyddyn wahanol iawn!