Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth yn agor

Y Tywysog yn agor Canolfan gwerth £2m sydd yn rhan o Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru

Prifysgol Aberystwyth
gan Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth

Ar y 10fed o Ragfyr, agorodd y Tywysog Charles yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth yn swyddogol.

Mae’r Ganolfan yn rhan allweddol o Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru ac yn cynrychioli buddsoddiad o dros £2 miliwn mewn cyfleusterau addysgu newydd ar gampws Penglais.

Cafodd y ganolfan, sy’n cynnwys cyfleusterau anatomi ac astudio newydd sbon, eu hariannu gan gyfuniad o roddion gwerth £500,000 gan gyn-fyfyrwyr a chronfeydd y Brifysgol ei hun.

Mae’r Ysgol newydd yn adeiladu ar dros 100 mlynedd o addysg ac ymchwil ym maes iechyd anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, yn fwy diweddar, y radd BSc Biowyddorau Milfeddygol a gyflwynwyd yn llwyddiannus ym mis Medi 2015.

Yn ogystal â’r cyfleusterau newydd ar gampws Penglais y Brifysgol, bydd y myfyrwyr hefyd yn astudio yn y labordai sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ac yn ennill profiad gwerthfawr ar ffermydd llaeth a defaid y Brifysgol, ac yng Nghanolfan Geffylau Lluest.

Mae’r cwrs hefyd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd wedi’u hariannu’n rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cafodd y Tywysog ei dywys o amgylch y Ganolfan Addysg Milfeddygaeth newydd a bu’n siarad â rhai o’r garfan gyntaf o fyfyrwyr a ddechreuodd eu hastudiaethau ym mis Medi eleni.

Fel rhan o’r ymweliad, llofnododd y Tywysog yr un llyfr ymwelwyr a lofnodwyd ganddo yn ôl ym 1969.

Wedi’r daith dywys, dadorchuddiodd blac i nodi agoriad swyddogol yr Ysgol.

Bu’r Tywysog yn hel atgofion am ei amser fel myfyriwr yn Aberystwyth ym 1969 a dywedodd:

“Mae gen i atgofion arbennig iawn o’r amser hwnnw a ffeindio fy ffordd o amgylch Aberystwyth yn gyffredinol.

Wedi i mi weld yr hyn y mae’r ysgol wedi’i wneud yma, mae wedi creu cymaint o argraff arna i, ac rwy’n falch iawn fy mod wedi chwarae rhan fach iawn wrth helpu i’w hagor.

Rwy’n gobeithio y caiff [y myfyrwyr] lwyddiant mawr yn y dyfodol a bydd yr ysgol yn ffynnu.

Croesawyd yr ymwelydd brenhinol gan Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd ac Is-ganghellor y Brifysgol yr Athro Elizabeth Treasure, ynghyd ag Is-brifathro dros Ddysgu ac Asesu’r Coleg Milfeddygol Brenhinol, yr Athro Adrian Boswood.

Dywedodd yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd:

“Anrhydedd o’r mwyaf oedd cael croesawu’r Tywysog yn ôl i Brifysgol Aberystwyth. Rydym yn hynod o ddiolchgar iddo am agor yr Ysgol sydd, heb os, yn arwyddocaol iawn i’r genedl. Diolch o galon i’r staff, y myfyrwyr, rhoddwyr a’n holl bartneriaid sydd wedi ein galluogi i ddechrau hyfforddi milfeddygon yng Nghymru am y tro cyntaf.

“Mae’r ymweliad heddiw yn brawf o bwysigrwydd sefydlu Ysgol Filfeddygaeth gyntaf Cymru yma yn Aberystwyth. Mae’n ddatblygiad hynod gyffrous. Mae Prifysgol Aberystwyth yn tyfu, ac mewn meysydd pwysig iawn, milfeddygaeth eleni ac addysg nyrsio yn dechrau’r flwyddyn nesaf.”

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Braint oedd cael ymuno â myfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a’r gwesteion arbennig yn yr agoriad swyddogol heddiw. Mae amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn ychwanegu darn newydd hollbwysig i’r jig-so, un a fydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”

“Bydd ein myfyrwyr yn mwynhau’r gorau o ddau fyd mewn prifysgolion sydd yn cynnig rhagoriaeth academaidd ac enw da am brofiad myfyrwyr. Hoffwn i ddiolch i bawb, gan gynnwys ein rhoddwyr hael iawn, sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru. Rydyn ni’n falch o allu cydnabod cyfraniad allweddol ein cyn-fyfyrwyr i’r Ysgol newydd gyda phlac yn yr adeilad yn ogystal.”

Bydd y myfyrwyr milfeddygaeth yn treulio eu dwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd i ddilyn ar Gampws Hawkshead y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn Swydd Hertford.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r ystod lawn o greaduriaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm, yn unol â phob rhaglen filfeddygol arall.

Ychwanegodd yr Athro Stuart Reid, Prifathro’r Coleg Milfeddygol Brenhinol:

“Hoffwn i, hefyd, ddiolch i’w Uchelder Brenhinol am wneud y diwrnod hwn yn un mor arbennig i’r fenter wirioneddol gyffrous hon. Rydyn ni’n werthfawrogol iawn o’r cydweithio gyda’n cydweithwyr yma yn Aberystwyth ac yn edrych ymlaen at estyn croeso cynnes i’r myfyrwyr pan fyddant yn cyrraedd y Coleg Milfeddygol Brenhinol ymhen dwy flynedd ar gyfer ail ran ein gradd filfeddygol newydd a ddarperir ar y cyd.”