Gôl y Tymor?

Aberystwyth 2 – 1 Y Drenewydd 17/09/2021

gan Gruffudd Huw
Aberystwyth - Jonathan Evans

Jonathan Evans – sgoriwr yr ail gôl i Aber

Buddugoliaeth haeddiannol i Aber ar ôl colli pedwar gêm agos yn olynol. Er gwaethaf anafiadau i rai o brif chwaraewyr Aber (Harry Franklin, Lee Jenkins a Jon Owen) fe frwydrodd dynion Corbisiero yn frwd am y tri phwynt.

Agorwyd y sgorio gyda gôl ragorol gan Jamie Veale ar ôl 36 munud. Gwelodd fod y golwr oddi ar ei linell ac ergydiodd. Hedfanodd y bêl tua 40 llath cyn gostwng yn berffaith i mewn i’r gôl a dros ben y golwr. Mi fydd gôl Veale yn sicr yn haeddu i fod ar restr gôl y tymor ac yn fy marn i, bydd angen gôl anhygoel i’w guro!

Daeth y Drenewydd yn ôl yn gyfartal gyda gôl gan Callum Roberts ar ddechrau’r ail hanner. Ond doedd dim atal Aber. Wedi 71 munud sgoriodd Jonathan Evans y gôl fuddugol. Croeswyd y bêl gan Matty Jones o gic rydd ar ochr dde’r cwrt ac fe beniodd Louis Bradford i lawr i’r llawr gan gyrraedd Evans ar y llinell gôl. Gyda’i gefn at y gôl, ffliciodd Evans y bêl rhwng coesau’r amddiffynnwr ac i mewn i’r gôl.

Mae’n werth hi chi wylio’r uchafbwyntiau i weld gôl Veale drwy glicio ar y ddolen isod. Mae’r fideo o’r gôl eisoes wedi’i wylio gan dros 100,000 o bobl ac wedi’i rannu gan gyfrifon Trydar fel Mundial (125,000 o ddilynwyr) a FootballJoe (409,000 o ddilynwyr)!

Uchafbwyntiau Sgorio: Y Drenewydd v Aberystwyth