Tridiau i achub cae gwyrdd Waunfawr

Dyddiad cau 11 o Awst i yrru eich sylwadau i Gyngor Sir Ceredigion am gae gwyrdd Waunfawr

Tom Kendall
gan Tom Kendall

11eg o Awst yw’r dyddiad cau ar gyfer cefnogi ymgyrch cymdeithas Waunfawr i gadw eu meysydd chwarae rhag datblygu drwy gael statws “Ardal Wyrdd Pentref”.

Mae pentrefwyr Waunfawr a Llanbadarn Fawr yn gwrthwynebu cais cynllunio arfaethedig ar gyfer 77 o dai ar y cael, ac wedi creu cais i ddiogelu’r fan ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cymdeithas dai Wales & West sydd yn datblygu ac yn prynu’r tir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Meddai llefarydd ar ran “Cyfeillion Cae Erw Goch”

Mae’r cae hwn wedi cael ei ddefnyddio ers cenedlaethau gan blant, rhieni, neiniau a theidiau a dyma’r man gwyrdd olaf sy’n weddill yn yr ardal. Mae’n hanfodol ar gyfer sicrhau a chynnal iechyd a lles trigolion lleol, yn enwedig yn ystod pandemig COVID. Mae dyletswydd ar bawb i ymladd hwn er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r ymgyrch wedi derbyn cefnogaeth nifer o wleidyddion gan gynnwys Elin Jones AS, Ben Lake AS a Cefin Campbell AS a Jane Dodds AS.

Mae Cyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Cymuned Llanbadarn Fawr hefyd wedi cefnogi’r ymgyrch.

Yn ystod yr ymgyrch, mae pyst pêl-droed y cae wedi diflannu, a dywedodd mam leol: –

Roedd fy mhlant yn siomedig iawn pan aethant draw i’r cae i chwarae pêl-droed a sylweddoli bod y pyst gôl wedi diflannu. Mae’r ffaith bod Cyngor Sir Ceredigion eisoes wedi dechrau paratoi’r tir i’w ddatblygu, hyd yn oed cyn i’r pwyllgor cynllunio gyfarfod yn anghredadwy. Cafodd hyn hefyd ei wneud yn ystod cofnod o gyfyngiadau cenedlaethol – prin y gellir ei ystyried yn “hanfodol”. Er gwaethaf e-bost i’r Cyngor Sir, nid oes neb wedi cymryd cyfrifoldeb am symud y pyst gôl.

Mewn cyfarfod Datblygu Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion ar y 28ain o Orffennaf, penderfynwyd 10 pleidlais i 5 i oedi rhoi caniatâd cynllunio tan fod y penderfyniad ar y statws wedi ei benderfynu.

Os ydych chi am gefnogi, e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk – a plîs rhowch gopi o’ch e-bost i erwgoch123@outlook.com fel bod gan yr ymgyrch gofnod.

Oes ganddo chi luniau o’r cae y gellid eu defnyddio yn yr ymgyrch.

 

 

 

Os nad oes gennych e-bost, gyrrwch lythyr at Gyngor Sir Ceredigion, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA6.