Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol: dydd Sadwrn

Ni ma yn fyw yn Rhydyfelin

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Mae’r ail ddiwrnod y treialon cŵn defaid rhyngwladol yma yn Rhydyfelin, Aberystwyth.

Yn anffodus oherwydd cyfyngiadau Covid nid yw’n agored i’r cyhoedd eleni. Ond gallwch wylio’n fyw – nai bostio’r linc yma.

Os na chi’n gyfarwydd â threialon, dilynwch y blog yma i gael blas o’r digwyddiad.

13:24

IMG_20210911_123939

Un ci yn cadw golwg ar hanner y defaid tra bod y ci arall yn rhoi gweddill y defaid mewn lloc arall.

D. Evans o Bowys yn rhedeg yn y gystadleuaeth Brace – cadw rheolaeth ar ddau gi a defaid!

12:19

Mae’r senglau wedi beni am y bore.

Brace nesaf – ma’ nhw’n rhedeg dau gi ru’n pryd.

12:10

IMG_20210911_114046

Ma’ Elen Pencwm yma yn darlledu yn fyw. Gallwch wylio’r holl gyffro a chlywed cyfweliadau gyda’r cystadleuwyr. Manylion llawn trwy ddilyn y linc yma.

https://www.internationalsheepdogtrials.org.uk

Neis cael sgwrs hefyd gyda rhai o aelodau’r pwyllgor.

 

11:56

IMG_20210911_112427

Ma’ Joc yn haeddu bath neis ar ôl gweithio’n galed!

11:53

Dewi yn rhannu’r defaid – y dasg olaf.

11:12

IMG_20210911_111023

Mae Dewi newydd hela Joc allan.

11:00

Dewi Jenkins, Tyngraig Talybont fydd yn rhedeg nesaf.

10:56

Sgwrs da Meinir Davies, Ysgrifennydd y Pwyllgor lleol.