Mae’r ail ddiwrnod y treialon cŵn defaid rhyngwladol yma yn Rhydyfelin, Aberystwyth.
Yn anffodus oherwydd cyfyngiadau Covid nid yw’n agored i’r cyhoedd eleni. Ond gallwch wylio’n fyw – nai bostio’r linc yma.
Os na chi’n gyfarwydd â threialon, dilynwch y blog yma i gael blas o’r digwyddiad.
Dyna fe am y tro. Blas i chi o’r digwyddiad.
Prynhawn ma’ nawr fydd gweddill y senglau yn rhedeg a gewn ni wybod wedyn pwy fydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn y brif bencampwriaeth yfory.
Byddwn ni nol ar y cae yfory – wedi dysgu bach mwy am flogio byw!
D. Evans o Bowys yn rhedeg yn y gystadleuaeth Brace – cadw rheolaeth ar ddau gi a defaid!
Mae’r senglau wedi beni am y bore.
Brace nesaf – ma’ nhw’n rhedeg dau gi ru’n pryd.
Ma’ Elen Pencwm yma yn darlledu yn fyw. Gallwch wylio’r holl gyffro a chlywed cyfweliadau gyda’r cystadleuwyr. Manylion llawn trwy ddilyn y linc yma.
https://www.internationalsheepdogtrials.org.uk
Neis cael sgwrs hefyd gyda rhai o aelodau’r pwyllgor.
Ma’ Joc yn haeddu bath neis ar ôl gweithio’n galed!
Dewi yn rhannu’r defaid – y dasg olaf.
Mae Dewi newydd hela Joc allan.
Dewi Jenkins, Tyngraig Talybont fydd yn rhedeg nesaf.
Sgwrs da Meinir Davies, Ysgrifennydd y Pwyllgor lleol.