Diolch Enfys, wedi mwynhau’r blog byw. Gwych cael digwyddiad rhyngwladol yn ein milltir sgwâr
Mae’n ddiwrnod olaf y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol ar gaeau Tancastell, Rhydyfelin.
Ers 7.45am bore ma’ mae’r 15 rhedwr gorau o’r ddau ddiwrnod diwethaf yn cystadlu yn y brif bencampwriaeth.
Mae’r cwrs wedi newid a’r amser sydd ganddynt i’w gwblhau bellach yn 30 munud.
Newyddion gwych yw bod Dewi Jenkins, Talybont wedi ennill ei le yn y ffeinal a bydd yn rhedeg 10fed heddiw gyda Jock.
Enillydd yr ‘young handler’ yw Peter Morgan o’r Iwerddon. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Y criw ifanc sydd wrthi’n dangos eu doniau ar hyn o bryd. Mae ’na un o bob un o’r 4 gwlad yn rhedeg ac mae Elgan Jarman newydd agor y gystadleuaeth yn cynrychioli Cymru.
Ni ddim ar y cae eto ond yn gwylio’r cyfan yn fyw.
Mae canmoliaeth uchel i’r gwasanaeth yma sydd wedi galluogi pawb i fwynhau’r treialon, er nad yw eleni yn ddigwyddiad sy’n agored i’r cyhoedd.
Ar hyn o bryd mae bron 200 o bobl yn cymryd mantais o’r darlledu byw yma.
Dyw hi ddim rhy hwyr i chi fanteisio ar y darlledu gwych – Gwefan ISDS (International Sheep Dog Society)
Ewch draw i’r linc yma am fwy o fanylion.