Trefniadau coffa Sul y Cofio a Gŵyl Goffa

Y Lleng Brydeinig Frenhinol yn trefnu digwyddiadau i goffau Sul y Cofio

Mererid
gan Mererid

Mae Cangen Aberystwyth o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, eleni yn cynnal ‘Gŵyl Goffa’ yn Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau ddydd Iau 11eg Tachwedd 2021 am 7-30 yr hwyr.

Yn arwain y noson bydd Geraint Hughes, sydd yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno ein côr cymysg o fri cenedlaethol SGARMES.

Bydd y noson yn cynnwys

  • Bois y Fro, pedwarawd canu gwrywaidd lleol sydd wedi canu ledled y sir a’r wlad;
  • Band Arian Aberystwyth yn chwarae rhaglen o gerddoriaeth;
  • Athena – Triawd o gantorion Opera Cymreig sydd ag enw da iawn am berfformiad lleisiol rhagorol;
  • Digwyddiad i gofio i gloi’r noson.
Bois y Fro

Mae tocynnau ar gael o swyddfa archebu Canolfan y Celfyddydau am bris o £18 gyda’r holl elw at yr Apêl  Pabi.

Eleni mae Sul y Cofio ar 14eg Tachwedd 2021. Gan ddychwelyd i amseroedd cyn Covid, mae Cangen Aberystwyth o’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn ehangu ar yr hyn a wnaethpwyd llynedd gyda’r trefniadau canlynol:

  • Bydd Gwasanaeth Eglwys eleni yn Eglwys y Drindod Sanctaidd ar y Buarth a fydd yn cychwyn am 9-15am ac a fydd yn cymryd oddeutu 1awr.
  • Yna bydd y gynulleidfa a’r rhai sy’n dymuno ymuno â ni yn cerdded neu yrru i’r Gofeb Ryfel ger y Castell lle bydd y Seremoni Cofio a gosod torchau yn digwydd. Byddwch yn eich lle erbyn 10-45am.
  • Gofynnir i bawb barhau i bellhau’n gymdeithasol drwy wisgo mwgwd (os dymunwch neu os ydych yn un o’r rhai sy’n dymuno gosod torch yn y gwasanaeth).
Cyflwyno’r Torchau