Tocyn teithio newydd rhwng Aberystwyth a de Cymru

Lansio tocyn integredig ar gyfer teithio ar fws a thrên rhwng Aberystwyth a de Cymru

gan Iestyn Hughes

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio mewn partneriaeth â TrawsCymru i alluogi cwsmeriaid i deithio rhwng de Cymru ac Aberystwyth gan ddefnyddio un tocyn yn unig, ac arbed arian ac amser.

Mae’r bartneriaeth wedi lansio tocynnau integredig ar deithiau trên TrC o dde Cymru ac Aberystwyth, a gwasanaeth bysiau T1 TrawsCymru sy’n cysylltu Caerfyrddin ag Aberystwyth drwy Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Yn lle bod angen i gwsmeriaid gyrchu gwahanol wefannau ac apiau i brynu tocynnau ar gyfer teithio ar draws y gwahanol ddulliau trafnidiaeth, gallant nawr brynu un tocyn fydd yn ymdrin ag elfennau TrC a TrawsCymru T1 o’u taith oddi ar wefan TrC, drwy ddefnyddio ap ac mewn rhai swyddfeydd tocynnau.

Ceir rhagor o fanylion yma