Ar y 3ydd o Hydref, cynhelir taith tractorau er cof am Ken Hughes.
Nia Gore sydd yn trefnu, ac mae Nia wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau elusennol yn y 5 mlynedd diwethaf, gan ddechrau gyda bore coffi Macmillan. Fy syniad i (Elin) oedd cynnal bore coffi, oherwydd gwelais yr hysbyseb ar y teledu a gofynnais a fyddwn i yn gallu gwneud yr un peth er mwyn helpu rhywun arall yn yr un ffordd wnaeth Macmillan helpu fy nhad pan oedd e’n sâl efo canser.
Llwyddom i godi £2,442 i Macmillan yn 2016. Ar ôl cael cymaint o gefnogaeth i’r bore coffi, penderfynodd fy mam gario mlaen gyda’r digwyddiadau elusennol.
Mae hi wedi cynnal nifer o deithiau tractor, boreau coffi a hyd yn oed wedi rhedeg 5k ar ôl colli 5 stôn.
Taith Tractorau 3ydd o Hydref 2021
Ymdrech nesaf Nia Gore yw codi arian i elusennau arbennig sef Blood Bikes Cymru ac Uned Chemotherapi Bronglais trwy gynnal taith tractorau ar y 3ydd o Hydref 2021.
Bydd raffl, cacennau, te a choffi. Bydd y daith yn dechrau a gorffen yn mart yn Gelli Angharad (Lovesgrove), £10 y tractor a the a choffi a raffl yn cael ei dynnu ar ôl y daith. Croeso mawr i bawb, a bydd yn dilyn rheolau COVID.