£2850 am redeg

Nia yn codi arian at Uned Cemotherapi Bronglais a Beiciau Gwaed Cymru

Nia Gore
gan Nia Gore

Diwedd Tachwedd 2020 aeth Nia Gore o Gomins Coch, ger Aberystwyth, ati i redeg 5 cilometr er budd elusen. Casglwyd cyfanswm o £2850 ganddi, i’w rannu rhwng dwy elusen, sef Uned Cemotherapi, Ysbyty Bronglais, a Beiciau Gwaed Cymru (Aberystwyth).

Oherwydd y cyfyngiadau yn sgil Covid-19, doedd hi ddim yn bosib trefnu i gyflwyno’r sieciau’n ffurfiol i’r ddwy elusen, ond mae’r arian bellach wedi cael ei roi i’r elusennau.

Meddai Nia, “Rwyf wedi codi cyfanswm o £16,800 i elusennau ers 2016, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi fy nghefnogi gyda’r codi arian.”