Taith gylchol yr Hen Domen, ger Rhydyfelin

Y diweddaraf yng nghyfres ‘Taith Gerdded yr Wythnos’

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Mae Llwybr yr Hen Domen yn daith gylchol fer sy’n addas ar gyfer cadair olwyn a chadair wthio.

Mae’n dilyn yr afon o gwmpas troed Pendinas hyd at hen domen y dref ac yna yn ôl ar hyd y Llwybr Ystwyth.

Dyma daith o tua 900 Medr gan ddechrau o ben heol Felin y Môr yn Rhydyfelin.

Hon yw’r diweddaraf yng nghyfres Taith Gerdded yr Wythnos Cyngor Sir Ceredigion  

 Cofiwch … 

Er mwyn cadw eich hun ac eraill yn ddiogel, cofiwch wneud y canlynol:

  • Cadw pellter cymdeithasol bob amser
  • Parchu’r amgylchedd
  • Dilyn y Cod Cefn Gwlad

Mae mwy o wybodaeth am gynllun ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ ar gael ar dudalen Archwilio Ceredigion ar wefan y Cyngor.

Gallwch hefyd anfon neges e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm Arfordir a Chefn gwlad.

Pob hwyl ar eich taith!