Taith Gerdded yr Wythnos: Cylchdaith Ffwrnais 

Sylw i lwybrau’r ardal

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Mae ymgyrch Taith Gerdded yr Wythnos Cyngor Sir Ceredigion wedi ailddechrau, a chylchdaith Ffwrnais sy’n cael y sylw yr wythnos hon.

Mae’r daith deuluol hon yn gyfle i ryfeddu at olygfeydd godidog Ynyslas a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Mae’r daith yn eich tywys trwy safle RSPB Ynyshir, sy’n ymestyn o lannau afon Dyfi hyd at y bryniau uwchlaw Ffwrnais.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgyfarwyddo ag unrhyw ganllawiau cyfredol, lleol ynghylch teithio i wneud ymarfer corff.

Cofiwch hefyd gadw pellter cymdeithasol bob amser, parchu’r amgylchedd a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ewch i dudalen Archwilio Ceredigion ar wefan y Cyngor am fwy o wybodaeth.

Gallwch hefyd anfon neges e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm Arfordir a Chefn gwlad.

Pob hwyl ar eich taith!