Fy Stori Goginio

Coginio yn fy wneud yn hapus yn ystod Pandemig.

Rosa Waby
gan Rosa Waby

Helo! Fy enw i yw Rosa, rwy’n 13 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Penweddig, ac rydw i wrth fy modd yn coginio!

Dechreuais gyfrif Instagram tua blwyddyn a hanner yn ôl i rannu fy nghariad o bobi.

Rwy’n mwynhau tynnu lluniau o’r bwyd rwy’n eu greu, a chysylltu â phobl ifanc eraill ar-lein. Rwy’n pobi pethau i fy nheulu bob wythnos, gallai fod yn gacennau, bisgedi, brownis, unrhyw beth! Mae pobi a choginio yn bwysig i mi, oherwydd

1. dwi’n caru bwyd ac

2. ers y pandemig Coronavirus, mae coginio wedi bod yn ffordd i fod yn hapus.

Mae aros yn hapus yn ystod y pandemig yn anodd iawn, ond mae pobi a choginio yn llawn cyffro, cyfleoedd a ffordd i ddianc rhag popeth sy’n digwydd.

Mae pobi (i mi) yn eithaf therapiwtig, yn enwedig creu bara. Mae yna rywbeth am greu bara sy’n ymlaciol iawn, mae’r ffordd mae’n teimlo a’r arogl hyfryd yn fy llenwi â hapusrwydd! Pan fydd y bwyd yn coginio, mae’n llenwi’r tŷ ag arogl blasus o siocled, neu lemwn, neu fara neu beth bynnag sydd yn y popty! Rwy’n hoffi addurno pethau hefyd, gwnes i gacennau ysbryd unwaith, ac roeddwn i lan tan 10:30 y nos yn eu gwneud! Mae’n hwyl.

Mae fy nghyfrif Instagram hefyd wedi gwneud gwahaniaeth i mi, yn enwedig y ffrindiau rydw i wedi’u gwneud arno. Mae nhw bob amser yn garedig, yn ddoniol ac yn dalentog iawn wrth bobi! Dwi wrth fy modd yn darllen y ‘comments‘ ar Instagram, maen nhw bob amser yn rhoi gwên ar fy wyneb, a dyna pam mae nhw mor bwysig i mi. Rydyn ni’n rhannu ryseitiau, syniadau ar beth i’w wneud nesaf ac yn cefnogi ein gilydd.

Rydw i wir yn mwynhau datblygu fy sgiliau ffotograffiaeth ac rydw i wedi dechrau arbrofi gyda gwahanol oleuadau a phropiau.

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’ch codi chi, dylech ystyried pobi, oherwydd mae bwyd yn dod â hapusrwydd i bawb, hyd yn oed mewn pandemig. Gallwch chi fy nilyn ar Instagram – @rosacooksfood_

 

 

6 sylw

Hywel Llyr Jenkins
Hywel Llyr Jenkins

Diolch am y stori am dy goginio Rosa. Rwyt ti wedi fy ysgogi i drio pobi dros y penwythnos. Er, dw’i ddim yn siwr os bydd e lan at dy safon di.

Rosa Waby
Rosa Waby

Pob lwc yn dy pobi dros yr penwythnos! Rwyn hapus bod fi wedi gwneud chi eisiau pobi!

Iestyn Hughes
Iestyn Hughes

Rwyf wrth fy modd yn gweld dy lif Instagram Rosa, ac mae popeth rwyt ti’n ei rannu yn edrych yn lush, ac yn codi chwant bwyd arnaf!

Rosa Waby
Rosa Waby

Diolch yn fawr iawn :)

Catrin Mai Davies
Catrin Mai Davies

Gwych Rosa! ‘Dwi a gweddill criw 9T yn edrych mlaen yn fawr at y diwrnod y byddi yn cael rhannu dy gacennau gyda ni yn ystod cofrestru yn yr ysgol! ?

Rosa Waby
Rosa Waby

Diolch!! A un ddiwrnod wna i ddod mewn a rhywbeth i pawb ! ?

Mae’r sylwadau wedi cau.