Siop Llanilar yn cael estyniad parhaol

Siop Bentref Llanilar yn cael estyniad yn ystod y cyfnod clo

Iwan Ap Dafydd
gan Iwan Ap Dafydd
Siop Llanilar

Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae Siop y Pentre’ yn Llanilar wedi cael estyniad newydd parhaol.

Yn ystod y cyfnod clo, cyflwynodd y siop babell dros dro er mwyn ehangu’r ddarpariaeth o ffrwythau, llysiau a nwyddau eraill a rheoli’r llif o gwsmeriaid oherwydd y rheolau pellhau cymdeithasol.

Mae’r siop wedi bod yn hanfodol i’r pentre’ a’i thrigolion yn ystod y pandemig gan ddarparu dewis eang o nwyddau yn ogystal â darparu gwasanaeth delifro, sydd wedi bod yn hollbwysig i’r rheiny sydd wedi gorfod hunan ynysu.

Tu mewn i Siop Llanilar

Mae llwyddiant y siop oherwydd gwaith caled Helen, Keith a gweddill y staff ac maent yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned. Mae’n galonogol gweld busnes lleol yn ffynnu.

Mae’r siop ar agor rhwng 7 y bore a 6 yr hwyr.

Galwch i’w cefnogi neu cysylltwch ar y ffon 01974 241338 neu Facebook https://www.facebook.com/llanilarvillageshop/

1 sylw

Mererid
Mererid

Diolch Iwan. Pob lwc i Helen a Keith.

Mae’r sylwadau wedi cau.