Mae Mohini Gupta yn un o griw o ddysgwyr sydd ar hyn o bryd yn dysgu Cymraeg dan nawdd cynllun Un o’r Miliwn. Falle y cofiwch chi bod Pwyllgor Dysgu’r Gymraeg Eisteddfod Ceredigion 2022 wedi dod o hyd i gyllid i ariannu dosbarthiadau Cymraeg i unigolion oedd yn awyddus i ddod yn rhan o fwrlwm yr Eisteddfod. Diolch i Bro 360 ac Adran Gymraeg ag Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth am y cymorth ariannol yma.
Mae Mohini yn un sydd wedi derbyn yr her o ddysgu Cymraeg a derbyn cymorth ychwanegol gan siaradwr Cymraeg. Sian Thomas, Aberaeron ydy mentor Mohini ac mae’r ymarfer sgwrsio rheolaidd yn amlwg wrth i Mohini siarad gyda Medi,Cadeirydd Pwyllgor Dysgu’r Gymraeg, Eisteddfod Ceredigion 2022.
Yn y sgwrs maent yn siarad am y sefyllfa covid yn India. Gan fod Mohini yn aelod o grwp o fyfyrwyr Rhydychen/Caergrawnt sy’n codi arian i’w ddanfon i ‘grwpiau ymylol’ sy’n dioddef yn India. Mae’r arian yn cael ei wario ar gyflenwadau ocsigen. Bydde croeso i unrhywun gyfrannu drwy’r ddolen isod.