Rhifyn Rhagfyr o’r Angor

Rhifyn diweddaraf o’r Angor i lawrlwytho

Mererid
gan Mererid

Gyda’r cyfnod clo presennol, penderfynodd swyddogion yr Angor i ryddhau rhifyn mis Rhagfyr drwy Bro Aber 360 i wneud yn siŵr fod cymaint ohonoch a phosibl yn cael ei ddarllen. Gyda siopau llyfrau ar gau, ac yn anodd i ddosbarthwyr, efallai nad oes rhai ohonoch wedi cael cyfle i ddarllen y 24 tudalen difyr ynglŷn a ardal Aberystwyth, Penparcau, Comins Coch, Waunfawr a Llanbadarn.

Dana Edwards oedd golygydd y mis yma, ac mae’n cynnwys erthyglau am y cyfnod clo, diwrnod ym mywyd Swyddog Olrhain Cysylltiadau, syniadau am anrhegion Nadolig, cyfweliad gyda Hazel Walford-Davies am ei llyfr O M, Elin Palvi-Hinde yn sôn am y theatr ac adolygiad o lyfr “Adre”. Mae hefyd newyddion yr ardaloedd a gwybodaeth am fusnesau’r dref.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau.