Heb os, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i’n pobl ifanc ac maent wedi dangos tipyn o wytnwch yn ystod y cyfnod hir a chaled hwn.
Yn draddodiadol, mae’r clwb wedi cael cefnogaeth gref i’w sesiynau ieuenctid ac os yw’r diddordeb a ddangoswyd eisoes yn parhau, cryfhau fydd y gefnogaeth honno, yn ôl un o’r arweinwyr, Enid Gruffudd.
“Wedi methu cynnal unrhyw sesiynau rhedeg dros y misoedd diwethaf, fe wnaethon ni lwyddo i gynnal ychydig o sesiynau cyn gwyliau’r haf gan lynu, wrth gwrs, yn gaeth at ganllawiau Covid. Roedd yn wych gweld y bobl ifanc yn ôl, eu cyffro a’u hegni yn llenwi cae Penweddig, lle rydyn ni’n hyfforddi, ac yn awyddus iawn unwaith eto i fynd amdani!”
Gyda gwyliau’r haf drosodd, mae blwyddyn redeg arall yn cychwyn ac mae croeso cynnes i redwyr newydd, fel yr eglura Enid, “Rydyn ni i gyd wedi cael seibiant dros wyliau’r haf, ac rydyn ni fel hyfforddwyr yn awchu i fynd a dechrau blwyddyn newydd o redeg, a mwynhau’r awyr agored a’r ardal leol gyda’n pobl ifanc.
“Mae ’na groeso mawr i bobl ifanc o bob gallu. Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw cael pobl ifanc allan yn mwynhau bod yn egnïol, gan ddatblygu eu cryfder a’u ffitrwydd fel rhedwyr, a hefyd yn mwynhau a gwneud ffrindiau newydd. Rydym yn lwcus iawn fel Clwb ac mae gennym dîm gwych o hyfforddwyr sy’n barod i roi o’u hamser i hyfforddi ac annog ein pobl ifanc.”
Mae Sonny Forbes wedi bod yn aelod o’r clwb iau ers nifer o flynyddoedd ac yn dweud ei bod yn wych bod yn ôl, “Rwy’n hapus iawn i fod yn ôl yn y clwb rhedeg gan ei bod yn braf gweld fy ffrindiau, a hefyd mae’n dda bod yn ôl yn gwneud yr ymarfer yr wyf yn ei garu ac yn ei fwynhau.”
Mae Enid yn sylweddoli bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb ond yn gobeithio y gallwn nawr symud ymlaen yn hyderus, “Rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych dros y flwyddyn ddiwethaf, gan y rhieni a’r gofalwyr, yr hyfforddwyr a’r cynorthwywyr, yn ogystal â’n AS lleol, Ben Lake, tra bod Ysgol Gyfun Penweddig wedi caniatáu inni ddefnyddio ei chyfleusterau awyr agored gan sicrhau y gall ein Clwb gynnig y cyfleoedd hyn i’n pobl ifanc ac am genedlaethau i ddod. Diolch o galon. ”
Os hoffech wybod mwy am y clwb ieuenctid, anfonwch ebost at Enid ar enidfach@gmail.com.