Rhedwyr Aber yn dal i fynd tra’n cadw pellter 

Wrth i COVID-19 barhau i gael effaith fawr ar ein bywydau dyddiol, mae pwysigrwydd ymarfer corff ar gyfer iechyd a lles corfforol a meddyliol yn cael ei bwysleisio a’i hyrwyddo’n gyson.

gan Deian Creunant
Meleri-James

Ond gall hynny fod yn fwy heriol gan fod canolfannau hamdden a champfeydd wedi cael eu gorfodi i gau ac mae clybiau chwaraeon wedi cwtogi ar yr holl weithgareddau grŵp.

Un clwb sydd yn naturiol wedi ei effeithio yw Clwb Athletau Aberystwyth, a oedd, cyn COVID, yn trefnu gweithgareddau bum noson yr wythnos ar gyfer pob oedran a phob gallu fel yr eglura’r cadeirydd Ian Evans,

“Roedd 25–30 o bobl yn dod yn rheolaidd ar gyfer ein sesiynau unigol, cymaint oedd y diddordeb, ac oherwydd ein bod hefyd yn cynnig sesiynau ar gyfer pob gallu ac oedran roedd y diddordeb yn tyfu’n gyson. Natur y clwb yw bod croeso i bawb, chi’n gweithio yn ôl eich gallu eich hun, ac rydyn ni i gyd yn cefnogi’n gilydd.”

Ond yna fe darodd y pandemig a bu’n rhaid canslo’r holl weithgareddau, ac heblaw am gyfnod byr yn yr hydref y llynedd lle roeddem yn cael cyfarfod gan ddilyn canllawiau pellhau cymdeithasol llym a niferoedd cyfyngedig, mae’n agosáu at ddeuddeg mis ers i ni gwrdd yn iawn fel clwb.

Byddai wedi bod yn ddigon hawdd i arweinwyr gwirfoddol y clwb gymryd yr amser hwn i ymlacio o’u gwaith yn datblygu rhaglenni hyfforddi rheolaidd ond, gan gydnabod bod yr angen yn bwysicach nag erioed i gynnig cefnogaeth i aelodau, datblygwyd ymarferion wythnosol i gadw pawb i symud fel yr eglura Louise Barker,

“Bu mwy o ymwybyddiaeth yn ystod y pandemig hwn o bwysigrwydd ymarfer corff nid yn unig o safbwynt corfforol, ond hefyd yn feddyliol, ac roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig cynnig rhywfaint o ysgogiad i’n haelodau i barhau i wneud ymarfer corff, er yn gwneud hynny ar eu pennau eu hunain.

“Mae’r clwb hefyd yn gymuned gyfeillgar hyfryd a thrwy ofyn i aelodau gofnodi eu gweithgareddau a dweud sut oedden nhw, mae hyn eto’n atgyfnerthu’r gefnogaeth y gallwn ei gynnig i’n gilydd mewn cyfnod heriol tu hwnt.”

Un aelod sydd wedi gweld yr ymarferion hyn yn fuddiol iawn yw Meleri Wyn James,

“Roeddwn yn aelod cymharol newydd o’r clwb pan darodd y pandemig, ar ôl dechrau gyda’r rhaglen wych ‘Couch to 5K’ ac yna symud ymlaen i hyfforddi’n rheolaidd gyda’r clwb – mae’n amgylchedd mor gefnogol.

“Diolch i’r hyn mae’r clwb wedi parhau i gynnig, rwyf wedi gallu parhau â llawer o’r hyfforddiant a dal ati i deimlo’n rhan o’r gymuned redeg leol. Rwyf hyd yn oed wedi cymryd rhan yn rhai o’r rasys rhithwir, profiad newydd sbon a diddorol iawn.”

Nid yn unig yr oedolion sydd wedi elwa – cyn Covid roedd dros 70 o bobl ifanc yn mynychu sesiynau wythnosol ac maent hwythau yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r clwb fel y dywed yr hyfforddwraig Enid Gruffudd,

“Fel sy’n wir gyda’r oedolion, mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael ymarfer corff yn rheolaidd mor bwysig er mwyn cynorthwyo gyda’u hiechyd corfforol a meddyliol. Rydyn ni wedi ceisio ei gwneud hi’n dipyn o hwyl gan osod heriau amrywiol, ac un ohonyn nhw yw’r Her Pellter.

“Rhannwyd yr adran iau yn ddau dîm a bob wythnos roeddent i redeg cymaint o filltiroedd ag y gallent. Roedd gan bob tîm oedolyn yn Gapten ac ar ddiwedd bob wythnos byddai Capten y tîm oedd wedi rhedeg y nifer lleiaf o filltiroedd yn dioddef a byddai’r gosb yn cael ei rhannu ar ein tudalen cyfryngau cymdeithasol caeedig i bawb fwynhau!

“Yn ystod yr heriau hyn maent wedi rhedeg dros 1600 o filltiroedd – tipyn o gamp yn y cyfnod hwn.”

Er bod rasys corfforol naill ai wedi eu canslo neu eu gohirio ledled y byd, mae rasys rhithwir wedi bod yn tyfu mewn poblogrwydd ac mae Clwb Athletau Aberystwyth wedi cael cryn lwyddiant yn rheiny. Yn ddiweddar cafwyd buddugoliaethau tîm ac unigol yn rasys rhithwir cyfnewid 5k Athletau Cymru fel y dywed Ian Evans,

“Mae llawer o’n haelodau yn cynllunio eu hyfforddiant i gyd-fynd â gwahanol rasys trwy gydol y flwyddyn ond, yn yr adeg ddigynsail hwn, does dim rasys corfforol wedi eu cynnal. Mae datblygiadau technegol rasio rhithwir, fodd bynnag, wedi caniatáu inni barhau i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, rhai wedi’u trefnu gan y clwb ei hun, ac mae hynny’n golygu bod rhywfaint o gystadlu iach wedi parhau.

“Ond y pwyslais parhaus o fewn y clwb yw i annog pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff gan ei fod mor bwysig i ni gyd o safbwynt iechyd corfforol a meddyliol yn y cyfnod anodd hwn.”

Os hoffech wybod mwy am Glwb Athletau Aberystwyth a’i amryw weithgareddau ewch i aberystwythac.wordpress.com neu chwiliwch am y clwb ar Facebook.

 

Yn y lluniau: Ian Evans, Meleri Wyn James, Oli a Freya Lerigo, Sean Bevan, Anwen a Mark Whitehead