Prin iawn yw’r rasys yn y cnawd yn y cyfnod heriol hwn ond mae rasys rhithwir bellach yn boblogaidd, ac yn caniatáu i grwpiau gystadlu yn erbyn ei gilydd heb fod yn cwrdd yn y cnawd.
Enillwyd y ras ddeuddeg mis yn ôl gan Glwb Athletau Aberystwyth. Bellach maent wedi ailadrodd y gamp – ac adennill eu coron. Caiff y ras ei hun ei rhedeg dros gyfnod o 15 awr ac mae gofyn i’r rhedwyr redeg amser penodol trwy gydol y dydd a throsglwyddo’r rhith-faton i aelod arall o’r clwb ar ddiwedd eu sesiwn.
Yn naturiol, mae yna elfen gystadleuol, ond mae ‘na bwyslais mawr hefyd ar gyfranogi ac annog eraill i fynd allan a gwneud rhywfaint o ymarfer corff.
Ar ddydd Sul crasboeth ym Mehefin, fe fentrodd ugain o glybiau ledled Cymru i ymgymryd â’r her gan ddechrau am 5 y bore, ac wedi rhedeg cyfanswm anhygoel o 122.53 milltir, sicrhaodd Power Rangers Clwb Athletau Aberystwyth y safle cyntaf am yr ail flwyddyn yn olynol. Daeth ail dîm y clwb, y Sofa Surfers yn 14eg, safle parchus tu hwnt, gan gwblhau 99.38 milltir yn ystod y dydd.
Cydlynwyd y timau ar ran y Clwb Athletau gan aelod y clwb, Ian Brandreth, a ymgymerodd â her ychwanegol o redeg am ddau gyfnod yn ystod y dydd,
“Rydym yn ffodus iawn fel clwb i gael aelodaeth gref a dyw hi byth yn broblem dod o hyd i wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn heriau fel hyn. Mae’r ffocws i raddau helaeth ar gymryd rhan a chefnogi clybiau eraill yng nghanolbarth Cymru, ond mae bob amser yn fonws pan gawn lwyddiant fel hyn.
“Mae’n debyg mai hwn oedd diwrnod poethaf y flwyddyn – grêt os am ei dreulio ar y traeth ond ddim cystal os oes angen i chi redeg am awr am y pellter hiraf posib – felly mae angen rhoi pob clod i’r holl redwyr.”
Dyma aelodau’r timau: Power Rangers: Will Lerigo, Gary Wyn Davies, Balasz Pinter, Isaac Ayres, Anita Worthing, Mel Hopkins, Ian Evans, Lynwen Huxtable, Ed Land, Ivan Courtier, Zoe Kennerley, Louise Barker, Paul Williams, Ian Brandreth, Mark Whitehead.
Sofa Surfers: Nick Thompson, Karen Davies, Ian Brandreth, Clare Lancaster, Mike Krawec, Karen Kemish, Heather Webster, Helen Stretch, Beth Jones, Meleri Wyn James, Deian Creunant, Neil Gamble, Lynsey Gamble, Theresa Sharland, Maggie Collingborn, Laura Hiscox, Elizabeth Kensler.
Gallwch weld rai o’r rhedwyr yma yn dilyn eu hymdrechion.
Yn ddiweddar, mae Clwb Athletau Aberystwyth wedi ail-ddechrau sesiynau hyfforddi gyda’i gilydd, yn dilyn ymlaen o’i ddarpariaeth hyfforddi rhaglenni rhithwir. Mae’n gweithredu yn unol â chanllawiau cyfredol.
Sut alla i ymuno?
Os hoffech chi ymuno yn ei weithgareddau ewch i aberystwythac.wordpress.com neu edrychwch am y clwb ar Facebook.