Radio Aber a Cered yn dod o hyd i Gefn y Rhwyd

Rhodri sydd yn trafod partneriaeth rhwng Radio Aber a Cered yn creu rhaglenni gwych

gan Rhodri Francis

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r orsaf radio gymunedol Radio Aber a Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi bod yn datblygu a darlledu tair rhaglen wythnosol sef ‘Cefn y Rhwyd’, ‘Pod Rhod’ a ‘Cymru United’.

Arweiniodd y bartneriaeth yma at ddarlledu sylwebaeth fyw cyntaf yn y Gymraeg yr orsaf ar nos Fawrth Tachwedd 9fed, pan lwyddodd Clwb Pêl Droed Aberystwyth i drechu’r Seintiau Newydd.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered (Menter Iaith Ceredigion).

“Ma fe ‘di bod yn ffantastig i gynnal yr holl raglenni ’ma ‘da Radio Aber. Er bod yr pandemig wedi bod yn ergyd fawr o ran cynnal gweithgareddau Cymraeg wyneb yn wyneb, mae wedi rhoi cyfle i ni ddysgu sgiliau newydd ac i arbrofi mewn meysydd mwy technolegol er mwyn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg mewn ffyrdd amgen”

Dechreuir rhaglenni Cered a Radio Aber am hanner dydd bob dydd Llun gyda Cefn y Rhwyd sef sioe wythnosol sy’n drafod sgoriau a straeon pêl droed y penwythnos. Mae’r rhaglen yn cael ei gyflwyno gan Rhodri a’i gyd-weithiwr Steff Rees – dau ddilynwr pêl droed brwd. Ceir gwestai gwadd rheolaidd hefyd ac yn ddiweddar mae’r gwestai yma wedi cynnwys John Owen, ymosodwr Aberystwyth a Dylan Ebenezer, cyflwynydd Sgorio.

Ar ddydd Mercher am 10yb, mae Rhodri yn dychwelyd at y meicroffon i gyflwyno rhaglen ‘Pod Rhod’. Sioe yw hon sydd yn gweld Rhodri yn sgwrsio gydag unigolion sydd yn gwneud gwaith arbennig yn eu cymunedau.

Y rhaglen olaf o’r arlwy gan Cered a Radio Aber yw ‘Cymru United’ pob dydd Iau am 12yp. Mae’r rhaglen hon yn un arloesol gan ei fod yn enghraifft brin o blatfform sydd yn trafod y byd Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg.

O ystyried fod dros hanner poblogaeth Ceredigion ddim yn gallu siarad Cymraeg, teimla Cered fod y rhaglen hon yn cynnig cyfle i werthu’r Gymraeg fel iaith i bawb. Fel y ddwy raglen arall, ceir gwestai gwadd ar Cymru United a gofynnir iddynt rannu caneuon Cymraeg sydd yn bwysig iddyn nhw.

Fel Cynhyrchydd Radio Aber, mae Sam Thomas yn gefnogol iawn o’r cydweithio sydd yn digwydd rhwng yr orsaf a’r Fenter Iaith leol:-

“Mae’r rhaglenni yma da ni’n creu efo Cered wedi bod yn boblogaidd iawn. Ni wastad yn edrych am syniadau a heriau newydd a gobeithio bydd y rhaglenni yma yn annog pobl eraill yn yr ardal i greu rhaglenni Cymraeg eraill ar Radio Aber – mae’r drws ar agor i bawb.”

Beth am gefnogi Radio Aber drwy wrando yma, gwirfoddoli, cyfrannu drwy Crowdfunder, neu ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol ar Facebook.