Mae cyfarfod o Bwyllgor Craffu Cymunedau Ffyniannus Cyngor Sir Ceredigion ar ddydd Mercher, 3ydd o Fawrth 2021, penderfynodd y Pwyllgor i gadarnhau’r cynnig yma: –
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
1. Ychwanegu cymal newydd i’r Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol i wneud cais cynllunio
cyn cael hawl i drosi tŷ annedd yn dŷ haf neu uned gwyliau;
2. Addasu’r fframwaith polisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal;
3. Ei gwneud yn orfodol i berchennog ail gartref ofyn am ganiatâd cynllunio cyn trosi ail gartref yn fusnes gwyliau neu AirBnB.
Yng Ngogledd Ceredigion, mae 11% o dai yn ward y Borth yn ail dai, 9% o ward Melindwr a rhan fwyaf o wardiau Aberystwyth oddeutu 4-5% o’r tai yn ail dai.
O ran diffyg tai fforddiadwy, mae Ceredigion yn drydydd drwy Gymru gyda Sir Fynwy a Bro Morgannwg yn uwch – llefydd sydd â lefelau incwm mwy sylweddol. Rhwng 2004 a 2010, cymhareb incwm fforddiadwy Ceredigion oedd yr uchaf yn genedlaethol. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae cymhareb Ceredigion bob amser wedi bod ymhlith y pum awdurdod lleol uchaf yn genedlaethol.
Yn anffodus, ni cheir tystiolaeth bendant sy’n pennu’r trothwy pan fydd ail gartrefi’n dod yn broblem benodol, gan fod y rhan fwyaf o’r ail gartrefi wedi’u lleoli mewn ardaloedd y mae eu heconomïau’n dibynnu’n draddodiadol ar dwristiaeth lle mae gwerthoedd tai yn naturiol uwch oherwydd eu bod yn lleoliadau arfordirol/gwledig dymunol.
Fodd bynnag, dywed yr adroddiad a baratowyd gan staff y Cyngor fod ail dai yn gallu achosi problemau, gan gynnwys:
- Prinder tai i ateb y galw lleol
- Effaith ar wasanaethau lleol, amwynderau preswylwyr lleol a’r gymuned
- Diffyg poblogaeth barhaol i gynnal ac i gefnogi cyfleusterau cymunedol
- Cyfleoedd gwaith tymhorol yn unig
- Effaith ar y farchnad dai lleol (prisiau’n codi)
- Effaith ar gyfraddau’r Gymraeg
Pan fu i Barc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd bennu trothwyon addas ar gyfer ei fframwaith datblygu lleol, bu iddo ddefnyddio’r egwyddor na ddylai nifer yr unedau llety gwyliau gyfrif am fwy nag 20% o’r stoc dai oherwydd ei bod yn ymddangos bod hynny’n effeithio ar gynaliadwyedd pentref. Yn Strategaeth Dai Cumbria 2006-2011, defnyddiwyd dangosyddion cytbwys i bennu trothwy o 10%. Mae’r Parc Cenedlaethol yn defnyddio’r wybodaeth hon fel canllaw i archwilio effaith ail gartrefi ar gynaliadwyedd cymunedau yn
y Parc. Fodd bynnag, ni cheir unrhyw ganllawiau cenedlaethol o ran hyn. O gymharu sefyllfa Ceredigion â sefyllfa Gwynedd lle mae’r cyfraddau perchnogaeth ail gartrefi ar eu huchaf, mae ail gartrefi’n cyfrif am dros 45% o’r stoc dai yn rhai o’r mannau mwyaf trafferthus yno, tra mae’r gyfradd ar ei huchaf yn y sir hon yng Nghei Newydd, lle mae ail gartrefi’n cyfrif am 26% o’r stoc dai.
Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Strong ei gynnig ym mis Rhagfyr, ac roedd cefnogaeth gyffredinol gan y cynghorwyr ond gofynnwyd am fwy o dystiolaeth o’r niferoedd yn y sir.
Gofynnodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd i’r ystyriaeth gael ei rhoi i bremiwm treth cyngor cartref 100 y cant eiliad – yn debyg i gynlluniau yn Ynys Môn a Gwynedd – a gefnogwyd gan y pwyllgor.
Roedd y Cynghorwyr yn poeni am effaith y cartrefi hyn ar gymunedau, yr iaith a gwasanaethau Cymraeg ac angen ei gydbwyso’r budd economaidd gyda thua £2.4 miliwn y flwyddyn.
Bydd yr adroddiad yn cael ystyriaeth gan y Cabinet yn yr wythnos nesaf nesaf, cyn cael ystyriaeth y Cyngor llawn yn y dyfodol agos.