Prysurder Amgueddfa Ceredigion: Gwydr Rhufeinig prin yn Abermagwr

Nifer o brosiectau dan ofal Amgueddfa Ceredigion

Mererid
gan Mererid
Bydd Amgueddfa Ceredigion yn arddangos darnau o wydr Rhufeinig prin o’r fila Romano-Brydeinig yn Abermagwr. Yn 2006, daeth y Comisiwn Brenhinol o hyd i olion awyr. Yn ystod 2010-2015, arweiniodd Dr Jeffrey L. Davies a Dr Toby Driver brosiect cymunedol a ddaeth o hyd i nifer o ddarganfyddiadau. Hwn yw’r unig adeilad Rhufeinig yn sir Ceredigion, ac un o’r adeiladau Rhufeinig mwyaf diarffordd.
Roedd Abermagwr yn gartref Rhufeinig yn y drydedd ganrif, ond yn adeilad eithaf bach, ac nid oedd yn glir pam sefydlu yno. Mae’r gwydr yn bwysig gan mai dyma’r unig un o’r cyfnod y daethpwyd o hyd iddo yng Nghymru. Mae arbennig gan iddo gael ei fewnforio o’r Almaen, a llestri bwrdd hollol unigryw ar gyfer cegin. Mae’n anodd gweld beth yw pwrpas gwreiddiol y llestri, ond gyda grant o £1,000 gan y Gymdeithas Archaeoleg Rufeinig, bydd modd arddangos beth oedd y defnydd gwreiddiol.
Mae pandemig Covid-19 wedi gohirio’r gwaith o greu’r mownt tan yn ddiweddarach yn 2021. Mae’r darnau gwydr yn rhy fregus i’w danfon at y crefftwr sy’n gwneud y mownt, felly bydd yn rhaid iddo ddod i Aberystwyth a sefydlu gweithdy dros dro yn yr amgueddfa. Yna bydd y darnau yn cael eu harddangos ar unwaith.
Gallwch wrando ar Alice Briggs (Curadur Amgueddfa Genedlaethol) ar raglen Aled Hughes (1 awr 13 munud o ddechrau’r rhaglen).
Dywedodd Carrie Canham, Curadur
“Pan oeddwn i yn yr ysgol fe’n dysgwyd nad oedd gan y Rhufeiniaid bresenoldeb sylweddol yng Ngorllewin Cymru, ond mae canlyniadau cloddio lleol wedi gwyrdroi’r dybiaeth honno. Mae’r gwrthrych rhyfeddol hwn yn dangos bod y fila yn Abermagwr yn gartref i Rufeiniaid cymharol gyfoethog a oedd yn mwynhau’r pethau da mewn bywyd. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r GAR/ARA am y cyllid a fydd yn galluogi ymwelwyr â’r amgueddfa i’w weld yn cael ei arddangos ar ei orau.”
Mae gwaith adeiladu ar yr Ystafell Addysg uwchben y caffi. Mae grisiau newydd, o’r ystafell addysg i falconi cyntaf yr awditoriwm, yn dod mas rhwng arddangosfeydd Llongau a Mwyngloddio.
Mae’r Amgueddfa hefyd yn brysur yn recordio prosiect 15 munud, a gafodd eu hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (HLF) a CADW, gyda gwirfoddolwyr yn recordio atgofion pobl am lefydd o gwmpas Aberystwyth ar gyfer taith cerdded fydd y lansio ym Mis Mai.
Mae prosiect cwiltio cymunedol yn parhau, ac maent yn derbyn cyfraniadau digidol a ffabrig ar gyfer hynny.
Beth am gefnogi gwaith da’r Amgueddfa drwy gyfrannu yn ariannol i ymgyrch ariannol y Ffrindiau: https://www.friendsofceredigionmuseum.com/fundraising-campaign