Y Don ar y Prom

Y newid yn yr hinsawdd a’i effaith ar Fae Ceredigion

gan Sue jones davies

Dydd Mawrth, 9 Mehefin, cynhaliwyd digwyddiad arbennig, ‘Y Don ar y Prom’, i dynnu sylw at y cyfarfod o’r G7 sy’n cael ei gynnal yng Nghernyw. Yno, mae arweinwyr y byd yn cwrdd i drafod y newid yn yr hinsawdd.

Fe wnaethon ni gwrdd â Seithenyn, a esgeulusodd amddiffynfeydd y môr gan ganiatáu i’r tonnau foddi’r tir, sef Cantre’r Gwaelod.

Yna, bu panel yn trafod y problemau allai ein hwynebu os byddai lefelau’r môr yn codi, a sut y byddai Ceredigion yn delio â hynny.

Fe roddon nhw lawer i’r gynulleidfa feddwl amdano, yn lleol ac yn fyd-eang.

Prynhawn rhagorol ac addysgiadol. Ac mae ein diolch i’r trefnwyr a phawb a gymerodd ran.