Plant Ysgol Rhydypennau yn codi arian i Blant Mewn Angen

“Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth y plant am y rhesymau pam ein bod ni’n codi arian”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Plant Ysgol Rhydypennau

Mae plant Ysgol Rhydypennau wedi bod wrthi’n codi arian i Blant Mewn Angen drwy gymryd rhan yr her Amdani 21, yn ogystal â gweithgareddau eraill.

Mae her Amdani 21 yn gofyn i blant ysgolion Cymru redeg cyfanswm o 2021 o filltiroedd yn ystod wythnos 15-19 Tachwedd.

“Mae hi wedi bod yn wythnos dda chwarae teg, mae’r plant wedi codi dipyn o bres,” meddai Peter Leggett, Pennaeth Ysgol Rhydypennau wrth golwg360.

“Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth y plant am y rhesymau pam ein bod ni’n codi arian.

“Yn aml maen nhw’n cysylltu Pudsey Bear gyda Phlant Mewn Angen ac efallai ddim y bwriad y tu ôl i’r peth.

“Felly rydan ni’n edrych arno fwy o’r ochr lles a bod eu cyfraniadau nhw yn helpu plant eraill.

“Ac yn sicr mae’r plant wedi mwynhau’r gweithgareddau.”

Gweithgareddau gwahanol

Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi golygu bod plant yr ysgol heb allu ymgynnull fel un, gyda dosbarthiadau yn gwneud gweithgareddau gwahanol.

Ychwanegodd Peter Leggett: “Mae’r plant i gyd wedi gwisgo fyny heddiw, ond oherwydd cyfyngiadau covid fyddan ni ddim yn cael cynnal gwasanaeth fel ysgol.

“Bydd hynny yn digwydd yn y dosbarthiadau yn lle.

“Maen nhw wedi gallu cario ‘mlaen gyda’r gweithgareddau fesul dwy flwyddyn ar hyd yr wythnos.

“Felly blynyddoedd Meithrin a Derbyn, Un a Dau yn cydweithio, Tri a Phedwar yn gwneud rhywbeth gwahanol, ac wedyn Pump a Chwech.

“Maen nhw i gyd wedi bod yn gwneud gweithgareddau gwahanol felly mae yno amryw o bethau gwahanol wedi bod yn digwydd.

“Ond ffocws heddiw yn benodol yw ei bod nhw’n gwisgo fyny, maen nhw wedi bod yn gwneud heriau rhedeg a chodi pres.”