gan
Sue jones davies
Ar ddydd Gwener y 12fed o Dachwedd, plannodd disgyblion y grŵp Eco yn yr Ysgol Gymraeg, gyda chymorth aelodau Grŵp Aberystwyth Gwyrddach, amrywiaeth o goed ar dir yr ysgol.
Noddodd Grŵp Aberystwyth Gwyrddach ddwy goeden afalau ac ymhlith coed eraill a blannwyd, roedd coed derw, bedw a cheirios gwyllt.
Bydd y goedwig newydd hon yn ategu’r goedwig arall sydd eisoes ar dir yr ysgol, coedwig a blannwyd gan GAG dros ddeng mlynedd yn ôl. Mae’r goedwig honno yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan y plant, yn enwedig am ei chysgod yn yr haf.
Bydd y goedwig newydd yn cael ei mwynhau a’i gwerthfawrogi’r un modd gan y disgyblion ac ymhen ychydig flynyddoedd bydd yn darparu ffrwythau i’w bwyta!