“Y peth gwaethaf am y lockdown… yw bod y gym ar gau”

Blaenoriaethu ailagor campfeydd a chanolfannau hamdden wedi’r cyfnod clo?

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae disgwyl i gampfeydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio gael eu blaenoriaethu a bod ymhlith y cyfleusterau cymunedol cyntaf i ail-agor, wedi’r cyfnod clo.

Daw hynny, wedi i’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ddatgan yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg yr wythnos ddiwethaf eu bod wedi bod yn “gyndyn iawn” i’w cau ac yn awyddus i’w hagor cyn gynted a bod modd.

Er hynny, roeddent ymhlith yr olaf i ailagor yn dilyn y clo mawr y llynedd.

Ym marn Steff Rees o Aberystwyth, oedd yn “byw a bod” yn y gampfa cyn y pandemig, byddai cau am gyfnod hirach nag sydd rhaid yn cael effaith niweidiol ar ei iechyd corfforol a’i lles meddyliol.

“Dyna’r peth gwaethaf am y lockdown”

“Y peth gwaethaf am y lockdown... yw bod y gym ar gau,” meddai mewn sgwrs gyda BroAber360.

“Dwi’n cofio’r amser pan nath y lockdown yma ddechrau a theimlo ar goll, mae o’n rhoi routine i’ch bywyd chi.

“Mae’n ffordd neis o de-stressio o’r gwaith ac anghofio am bopeth ac mae’n rhoi rhyw fath o feel-good factor a chi jest yn teimlo’n well ar ôl bod.”

Er bod astudiaeth ddiweddar wedi canfod bod cynnydd yn niferoedd y bobl sy’n ymarfer corff tu allan, dywedodd Steff Rees bod misoedd oer y gaeaf wedi cyflwyno rhai heriau.

“Maen nhw’n dweud gallwch chi fynd i ymarfer corff tu allan,” meddai, “ond mae hi wedi bod ym mis Rhagfyr eithaf oer ac yn amlwg, mae hi’n tywyllu mor gynnar hefyd – felly dydi hynny ddim yn gwneud ymarfer corff tu allan yn hawdd iawn.”

Dywedodd ei fod o’r farn bod modd ailagor campfeydd mewn modd sy’n ddiogel drwy ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch pendant.

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.