Penwythnos comedi Aber yn lwyddiant mawr

Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn lwyddiant mawr

Mererid
gan Mererid

Roedd Gŵyl Gomedi Aberystwyth dros y penwythnos (1af i’r 3ydd o Hydref), un o’r digwyddiad mwyaf ers cyfnod COVID.

Ymysg yr artistiaid, roedd Rhod Gilbert, Josh Widdicombe, Esyllt Sears, Tudur Owen, Steffan Alun, Carys Eleri a Kiri Pritchard-McLean.  Am unwaith, roedd mwy o ferched yn ymddangos na dynion, gydag amrywiaeth o gomedi yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Little Wander, cwmni o Aberhonddu yw’r trefnwyr, a nhw hefyd sydd yn drefnwyr Gŵyl Gomedi Machynlleth.

Ymysg y cefnogwyr mae Prifysgol Aberystwyth, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, Croeso Cymru a thîm digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru.

Mae’r ŵyl yn cynnwys tua 40 o sioeau unigol o wahanol feintiau, o tua 50 – 400 o seddi. Ymysg y lleoliadau yn cynnal digwyddiadau roedd sinema’r Commodeore, Arad Goch a’r Cambria, ac wrth gwrs Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Trefn yr Ŵyl yw eich prynu tocynnau i’r sioeau rydych chi am eu gweld, gan ganiatáu i chi wylio cymaint neu gyn lleied â’r hoffech dros y penwythnos.

Roedd trefniadau diogelwch gwych gyda phawb yn dangos prawf fod ganddynt brawf negyddol o’r GIG (NHS). Roedd mynychwyr wedyn yn cael band i’r holl benwythnos.