Pedwar ffermwr ifanc o Geredigion yn dod i’r brig yng Nghystadleuaeth Pesgi Moch

Fe ddaethon nhw i’r brig yn y gystadleuaeth yn y Sioe Frenhinol Rithwir eleni.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Dylan Phillips o Langwyryfon yn croesawu ei gymdogion newydd!

Mae pedwar aelod o’r Ffermwyr Ifanc yng Ngheredigion wedi croesawu moch newydd i’r ffermydd dros yr wythnos ddiwethaf.

Dylan Phillips, Eiry Williams a Laura Evans – y tri o ffermydd cyfagos yn Llangwyryfon – ynghyd â Luned Jones o Lanwnnen, sy’n derbyn y moch fel gwobr am gyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Pesgi Moch.

Fe ddaethon nhw i’r brig yn y gystadleuaeth yn Sioe Frenhinol Rithwir Cymru eleni.

Ers cyhoeddi rownd derfynol y gystadleuaeth, sy’n cael ei redeg ar y cyd gan Fenter Moch Cymru a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru, maen nhw wedi derbyn hyfforddiant i’w paratoi at ofalu am yr anifeiliaid.

Maen nhw hefyd wedi cael mewnwelediad manwl i’r diwydiant gan arbenigwyr moch, a bydd y ffermwyr ifanc yn parhau i dderbyn cefnogaeth a mentora yn y dyfodol agos.

“Edrych ymlaen yn fawr”

Roedd dau ffermwr ifanc arall yn y rownd derfynol, sef Elliw Roberts a Sally Griffiths, ac maen nhw hefyd yn cael moch i’w ffermydd.

Dywedodd Elliw Roberts ei bod hi’n gyffrous am y wythnosau nesaf.

“Rwyf bob amser wedi bod eisiau cadw moch ar y fferm, a’r unig ffordd y gallwn i wneud hynny oedd ceisio yn y gystadleuaeth hon,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her dros yr wythnosau nesaf.

“Mae’r sesiynau hyfforddi wedi cychwyn ac maent mor addysgiadol, ni fyddwn a syniad sut i fagu moch heb gefnogaeth y fenter hon.

“Bydd hi mor gyffrous mynd i’r Ffair Aeaf i arddangos fy moch.”