Her y ‘Big Pedal’

Hybu iechyd a lles ein disgyblion a’r gymuned

Ysgol Gymunedol Llanilar
gan Ysgol Gymunedol Llanilar

​Yn y bythefnos ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn cymryd rhan yn y ‘Big Pedal’. Y nod yw i leihau traffic wrth ymyl yr ysgol. Cafodd y disgyblion gyfle i gael sesiwn sgiliau beicio a sgwtera ar yr iard, golchi beiciau a gwneud yn siŵr bod ein beiciau yn gweithio’n iawn. Cofiwch i wisgo helmed pan yn mynd ar feic neu sgwter.

Gan Bryn a Lewis