Pasg ym Mhenparcau

Prysurdeb Pasg ym Mhenparcau

Mererid
gan Mererid
Karen

Os ydych yn teithio i Aberystwyth o’r de, fe fydd nifer ohonoch wedi sylwi ar ddathliad y Pasg yng Nghanolfan Gymunedol Penparcau. Mae Grwp Prosiect Plannu Penparcau yn gwneud gwaith arwrol yn dathlu gwahanol dyddiadau drwy ddatblygu’r gerddi. Diolch enfawr iddynt.

Nhw oedd enillwyr gwobr Menter Iaith Cymru am y bwgan brain gorau yn Haf 2020, ac fe fu arddangosfa Nadolig ragorol. Dathlwyd Dydd Santes Dwynwen a Gwyl San Ffolant, ac mae’n bleser i weld trefniadau presennol y Pasg.

Beth am i chi ddod am dro?

Mae Grwp Plannu Penparcau yn rhan o Hwb Cymunedol Penparcau, sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac yn derbyn cyllid gan Ymddiriedolaeth Iechyd Pobl (People’s Health Trust).

Diolch i’r prif arddwr, Jon Evans, a’i griw o wirfoddolwyr sydd yn cynnwys Tom Thomas, Kevin a Denise Harrison.

Yn ychwanegol i hyn, mae’r Hwb yn danfon dros 400 o fagiau Pasg i’r holl blant cynradd ym Mhenparcau ddydd Sadwrn.

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gwneud y bagiau o grefftau Pasg a siocledi dros y chwe wythnos ddiwethaf a bydd mwy o fanylion am y wefan a grwp Facebook dydd Iau (1af o Ebrill).

Am fwy o fanylion, cysylltwch a Karen Roberts 01970-611099, y grwp Facebook neu drwy’r wefan https://penparcau.cymru/