Newid defnydd i hen adeilad Samariaid Aberystwyth ar y Buarth

Cais cynllunio i newid adeilad o swyddfa i annedd preswyl

Mererid
gan Mererid

Mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i newid defnydd adeilad y Samariaid yn Aberystwyth.

Bydd nifer ohonoch yn gyfarwydd â’r hen adeilad ar Ffordd y Drindod ar y Buarth, ac mae’r Samariaid bellach yn Nhŷ’r Harbwr yn Nhrefechan felly ddim angen yr adeilad.

Mae bwriad i newid defnydd yr adeilad i fod yn dŷ unwaith eto wedi ei gyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion.

https://ceredigion-online.tascomi.com/planning/index.html?fa=getApplication&id=59301&fbclid=IwAR1j8Fd4HXWhd1jLfwRXzW3Tfr9PlzjnqZWouIjloh01Qm3VUKSinsg5N_I

Nid oedd gan Gyngor Tref Aberyswtyth unryw wrthwynebiad, ond maent wedi gofyn i gadw y giât ffrynt a’r rheiliau ar y blaen, gan sicrhau fod trefniadau clir ar gyfer sbwriel.

Mae’r adeilad hefyd ar werth drwy Alexanders

4 Bedroom Mid Terraced House – For Sale