Am dro i Nant-y-Moch

Mynd draw i Nant-y-Moch ar fore Sadwrn braf

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Gan fod hi’n fis ‘Mynd am dro’ mis Mai, fues i am dro draw i gronfa Nant-y-Moch ar fore Sadwrn heulog am y tro cyntaf eleni.

I gyrraedd, rydych angen mynd i Bonterwyd, cyn troi fyny i’r chwith tuag at ddiwedd y pentref, os rydych yn dod o gyfeiriad Aberystwyth, yn dilyn yr arwydd. Arhoswch ar y ffordd yna am gwpwl o filltiroedd tan eich bod yn cyrraedd y gronfa, sydd hefo cyfleusterau parcio yna.

Fel gallech weld o’r lluniau, ffordd darmac di’r llwybr, felly mae’n addas i blant ifanc a phramiau, ac mae’r ffordd yn fflat am y rhan fwyaf.

Gallwch gerdded o gwmpas y llyn, ond penderfynom ni i droi nôl wedi cyrraedd pen pella’r Gronfa, ar ôl rhyw 3 milltir a hanner, ac mae’n cymryd rhyw 2 awr a hanner i gyflawni hefo brêc am bicnic. Wrth gyrraedd nôl yn y maes parcio, gallwch weld cofgolofn i Owain Glyndŵr, a’r sawl a ddisgynnodd yn frwydr Hyddgen yn 1401.

Dw i’n enwebu Steff Rees i rannu ei hoff dro fo ni nesaf.

1 sylw

Steff Rees
Steff Rees

Diolch am yr enwebiad Mr Johnson – wâc ar y ffordd!

Mae’r sylwadau wedi cau.