Mynd a dod y byd Pêl-droed

Newidiadau yng ngharfannau Aberystwyth a Phenryncoch yn dilyn cau y ffenest drosglwyddo.

gan Gruffudd Huw

Mae Aber wedi bod yn brysur tu hwnt yn y ffenestr gan arwyddo 5 chwaraewr newydd i’r garfan gyda 2 yn ymestyn eu cyfnod benthyg. Er bod sawl chwaraewr cyffrous yn ymuno, mi fydd rhaid aros tan o leiaf mis Fawrth cyn iddynt gael cyfle i chwarae. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn gobeithio bydd gemau’r prif gynghrair yn dechrau ar y pumed o Fawrth, neu pan fydd Cymru yn dychwelyd i Lefel Rhybudd 3 Coronafeirws. Nid yw’r Llywodraeth wedi cadarnhau unrhyw newidiadau i’r Lefel Rhybudd hyd yma. Bydd Penrhyncoch ddim yn dychwelyd i chwarae tan o leiaf yr 20fed o Fawrth. Cawn weld!

Dyma restr o chwaraewyr newydd Aber:

• Harry Franklin (canol y cae, 21 mlwydd oed) – ymuno o Evesham United am weddill y tymor

• Dan Cockerline (blaenwr canol, 24 mlwydd oed) – ymuno o FC United of Manchester (nid y Manchester United!)

• Harri Horwood (asgellwr chwith, 20 mlwydd oed) – dychwelyd i’r clwb – ymuno o Britton Ferry / Llansawel – wedi ennill y gynghrair datblygu gyda thîm dan 19 Aber.

• Ian Kearney (amddiffynnwr canol, 33 mlwydd oed) – ymuno o City of Liverpool FC – wedi chwarae 8 gêm yng Nghynghrair Ewropa gyda Chei Connah.

• Louis Bradford (amddiffynnwr canol, 19 mwyd oed) – aros tan ddiwedd y tymor ar fenthyg o TNS.

• Jon Owen (ymosodwr, 28 mlwydd oed) – dychwelyd i’r clwb – ymuno o CPD Porthmadog – Cymro Cymraeg sy’n cael ei adnabod gan y llysenw “Jon y Cigydd”.

• Connor Roberts (golwr, 28 mlwydd oed) – aros tan ddiwedd y tymor ar fenthyg o TNS.

Mi fydd Sam Barnes, Ilan ap Hughes, Gavin Jones, Jonathan Foligno a Harri Rowe yn gadael y clwb.

Er nad yw’r ffenestr wedi bod mor brysur i Benrhyn, maent wedi arwyddo tri chwaraewr gan gynnwys Foligno o Aber. Roedd Foligno wedi chwarae rôl bwysig yn amddiffyn Aber yn enwedig yn y gêm gyfartal gofiadwy yn erbyn TNS. Y ddau arall yw Liam Doherty o CPD Aberteifi a Taylor Watts o CPD Fleet.