Merched Aber yn rownd gyn derfynol yn erbyn Abertawe

Diweddariad ar lwyddiant tîm pêl-droed Merched Aberystwyth o wythnos o ennill a colli

Mererid
gan Mererid
Am ddim i BroABer360 a Phapurau Bro

Cafodd tîm pêl-droed Merched Aberystwyth lwyddiant yn erbyn Merched Cascade drwy ennill 1-0 yn eu gem nos Iau yn Ystrad Mynach.

Dyma’r tro cyntaf i’r tîm fod yn y rownd gyn derfynol ers iddynt gael dyrchafiad i

Aelodau’r tîm oedd Ffion Ashman, Bethan Roberts, Caroline Cooper, Libby Isaac, Rebecca Mathias, Kelly Thomas, Flavia Jenkins, Emily Thomas, Hannah Pusey (gyda Siani Evans yn eilyddio ar 54 munud), Ffiona Evans (Charlotte Chalmers yn eilyddio ar ôl 56 munud), Niamh Duggan (gyda Tania Wylde yn eilyddio ar ôl 81 munud).

Niamh Duggan oedd yn gyfrifol am unig gol y gêm a hynny yn yr ail hanner ar ôl 68 munud, o ganlyniad i basio hyfryd gan Libby Isaac. Tan hynny, roedd yn gêm agos gyda Hollie Williams yn cael sawl cynnig, ac Emily Thomas bron a dod o hyd i gêm y rhwyd.

Mewn cyd-ddigwyddiad, chwaraeodd Merched Aberystwyth y tîm byddant yn wynebu yn y rownd gyd-derfynol (Merched Abertawe). Yn anffodus, colli oedd hanes y tîm dydd Sul (16-5-2021) a hynny o 5 gol i ddim. Chwaraewyd y gêm yn Aberystwyth a gellid dilyn uchafbwyntiau ar Sgorio.

Dywedodd y cyd-reolwr Andy Evans: –

Mae’r merched wedi parhau i chwarae yn ardderchog o ystyried cyfyngiadau COVID. Byddant yn gallu wynebu’r gêm wythnos nesaf gan wybod ei bod yn gallu ennill gemau. Rwy’n falch iawn o berfformiad y tîm dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd y gêm gyn derfynol yn cael ei chynnal dydd Sul nesaf (23-5-2021).